Yn Seren Cymru am Orphenaf 24, 1864, cawn atebiad y Dr. i'r llythyr crybwylledig, a chan ei fod yn dal perthynas agos â'r mater dan sylw, ac yn nodweddiadol iawn o'r Dr., dyfynwn ranau o hono yma. Ysgrifena:—
ANWYL FRAWD EDWARDS,
"Yr hwn, er nas gwelais, a garaf gyda chalon gywir a dirodres—mae eich bywyd dichlynaidd, eich gweithgarwch parhaus gyda y Wasg a'r pwlpud, a'ch ymlyniad diysgog gyda phob peth Cymreig, yn adnabyddus i mi er ys blynyddau; ac er fod Môr y Werydd rhyngom, gallaf eich cofleidio mewn serch Cristionogol, er mwyn eich llafur cariad, er gogoniant y Duw Mawr sydd uwchlaw pawb oll yn fendigedig yn oes oesoedd, lles eich cyd—ddynion yn gyffredin, a lles neillduol eich cydwlad. wyr mewn gwlad bell." * * *
Eich llythyr caredig.—Diolch am hwn. Mae ei gynnwysiad wedi rhoddi llawer o gysur i mi, a charwn fanylu arno oni bai ei fod yn rhy bersonol, ac mor barchus i mi fy hun. Er hyny, nodaf bedwar peth sydd ynddo:—Ymweliad Mr. H. H. Davis.—Fod eich gair chwi, a'r cymmeriad uchel a roddwch iddo, yn ddigon er iddo gael derbyniad calonog yn Nghymru; ac hyderaf y ca dderbyniad croesawgar yn Lloegr a pharthau ereill o Ewrop. Credwyf y gall ei ymweliad fod o fawr les. Mae yn Lloegr, yn mhlith llongwyr a dosparth o'r marsiand. wyr deimlad dros y Dehau, meddant hwy; ond nid gwir hyn. Nid oes dim gwir deimlad dros y Dehau, hyd y nod yn mhlith y fath ddynion ag adeiladwyr yr Alabama, perchenogion y llongau sydd yn rhedeg y blockade, a gwerthwyr arfau rhyfel a phylor, cig moch a saltpetre, a phethau ereill o'r natur yna; na, y ‘teimlad ' sydd am yr aur a'r arian, a'r elw dychrynllyd sydd ar y nwyddau hyn. Aur ac arian, elw a chyfoeth, yw duwiau y dynion hyn: dyma y delwau o flaen y rhai y plygant, gan nad b'le y ceir y pethau hyn, pa un ai yn y Dehau ai yn y Gogledd maent yn foddlon i beryglu pob peth er cael gafael arnynt. Mae y dynion hyn yr un mor barod i werthu arfau tân a phylor i'r Caffrariaid ac anwariaid Zealand Newydd, i ymladd yn erbyn coron Prydain. Yn wir, y maent wedi gwneyd hyn yn barod; a byddent yr un mor ewyllysgar i werthu y nwyddau hyn i'r cythraul, dim ond iddo agor marchnad ar gyffiniau Gehena. Dyma wraidd y ffug—deimlad sydd yma dros y Dehau. O'r tu arall, gallaf eich sicrhau fod gwir deimlad gorcuon y wlad, o Victoria ar ei gorsedd hyd modryb Magws yn Elusendy Aberdar, dros y Gogledd a rhyddid, o blaid Duw a Lincoln, ac o blaid Undeb Americanaidd heb gaeth was o'i fewn. Dyma ein teimlad a dyma ein gweddi. Mae ein teimlad ni fel gweinidogion ac eglwysi yn ddwys drosoch yn eich dydd hwn o drallod a gofid. Cymmerwch