1869—Mawrth | 11 | Address on Mission | Ballymena |
" | Address to School | Do | |
12 | Little Maid | Coleraine | |
13 | Address | Grant Causeway | |
14 | Address | Magherfelt | |
15 | Dry Bones | Tubbermore | |
16 | Going to | Dublin | |
17 | Crossing | for home | |
18 | Cyfeillach | Calfaria |
Gwelir na fu y Dr. enwog yn segur yn ngwlad y Gwyddel. Teithiodd lawer, a gweithiodd yn galed tra yno. Yn y Seren, a grybwyllasom, cawn erthygl ragorol wedi ei chyhoeddi ganddo, yn cynnwys hanes manwl o'r daith hon, a rhydd ynddi lawer o wybodaeth am y wlad a'i thrigolion, ac yn neillduol felly am yr achos Bedyddiedig yno, a'r teuluoedd parchus y daeth i gyssylltiad â hwy. Bu hyn yn ddiau yn fantais fawr iddo osod achos y Genadaeth Wyddelig yn effeithiol o flaen yr Americaniaid. Wedi cael ychydig ddyddiau gartref—bum bron â dweyd i orphwys—ar ol y daith hon, yr hyn a fuasai yn gamsyniad mawr, oblegyd nid oedd gorphwys llawer yn hanes y Dr., cychwynodd am Wlad y Gorllewin. Meddiannwyd eglwys Calfaria, ac yn wir tref Aberdar, â theimladau rhyfedd yr adeg hono. Nid annghofia y rhai oeddynt yn bresenol yn y "cwrdd gweddi hynod hwnw" (fel y gelwid ef gan yr hen batriarch o Langefni), a gynnaliwyd yn Nghalfaria, y teimladau dwys a hiraethus a godent, fel llanw y môr, yn eu calonau. Teimlent yn falch am yr anrhydedd a osodid ar eu gweinidog enwog, ond yn dra phryderus am dano ef a'i anwyl blentyn yn gwynebu ar y fath daith. Cyflwynasant ef yn anwyl mewn gweddiau gwresog ac mewn dagrau pur, i ofal yr Hwn a wnaeth nef a daear. I ddangos eu parch i'r Dr. a'u cydymdeimlad â'r eglwys, yr oedd tyrfa o frodyr parchus yn y weinidogaeth, a nifer mawr o leygwyr pwysig yr enwad, wedi dyfod yn nghyd o wahanol gyfeiriadau y sir. Yn mhlith ereill, yr oedd y rhai canlynol yn bresenol:—J. T. Jones (A.), Aberdar; J. Rees (W.), etto; W. Samuel, Cwmbach; R. A. Jones, Abertawy; H. C. Howells, Clydach; J. R. Morgan (Lleurwg), Llanelli; N. Thomas, Caerdydd; J. Lloyd, Merthyr; W. Harries, Heolyfelin; D. Davies, Hirwain; T. Phillips, Blaenllechau; D. Davies (Dewi Dyfan), Gad-