Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/162

Gwirwyd y dudalen hon

lys; J. Roberts, Mumbles; W. Williams, Cendl; T. Humphreys, Cwmaman; T. John, Ynyslwyd; J. Jones, Abercwmboye; W. Williams, Mountain Ash; J. Williams (S.), etto; J. Lewis, Troedyrhiw; O. John, Treuddyn; Lewis ac Edwards, Llangollen; John Bowen, Ysw., Treforris; John Jones, Ysw., Clydach. Derbyniwyd llythyrau yn gofidio o herwydd eu hanallu i fod yn bresenol oddiwrth y Parchn. John Jones (Mathetes), J. G. Phillips, Builth; R. Prichard, Dinbych; E. Roberts, Pontypridd; J. Rufus Williams, Ystrad Rhondda; R. Williams, Hengoed; T. E. James, Glyn Nedd; D. Edwards, Pontardawe, yn nghyd ag Asaph Glyn Ebwy, a Henry Bowen, Ysw., Treforris. Cymmerwyd y gadair yn y cwrdd hwn gan y Parch. T. John, Ynyslwyd, a bu y gwasanaeth yn amrywiol mewn darllen, canu, ac anerchiadau. Gweddiwyd gan y brodyr y Parchn. W. Williams, Cendl; T. Humphreys, Dewi Dyfan, H. C. Howells, Clydach, a D. Davies, Hirwaun. Traddodwyd anerchiadau gan y Parchn. T. Phillips, Blaenllechau; Lloyd, Merthyr; Harris, Heolyfelin; Williams, Rhos; Samuel, Cwmbach; Jones, Abercwmboye; Gwerfyl James, Treforris; J. T. Jones (A.), W. Rees (W.), R. A. Jones, Abertawy. Gan fod y ddau siaradwr diweddaf yn y cyfarfod hwn yn gydfyfyrwyr â'r Dr. gosodwn ddyfyniad byr o'u hanerchiadau, yn nghyd ag araeth bwrpasol y Dr. i ddiweddu:—

"Anerchiad gan y Parch J. R. Morgan (Lleurwg). Adwaenai ef y Dr. er's 25 mlynedd, ac yr oeddynt yn gyfeillion cywir o'r munyd cyntaf y gwelsant eu gilydd hyd yn awr. Yr oedd yn bresenol yn sefydliad y Dr, ac wedi bod yn ei gapel bron yn mhob cyfarfod o bwys o hyny hyd yn awr. Yr oedd capeli i'r Bedyddwyr wedi neidio i fodolaeth fel mushrooms trwy holl gwm Aberdar, a hyny yn benaf trwy offerynoliaeth y Dr., ac yr oeddynt oll yn llawnion erbyn heddyw. Nad oedd ef yn galaru, eithr yn hytrach yn llawenhau am fod Dr. Price yn myned dros y mor, ac y carai yn ei galon fyned gydag ef. Celai weled llawer o ryfeddodau Duw ar y mor ar ei daith, nes ei wneyd yn fardd heb yn wybod iddo ei hun, ac y dysgwyliai ei glywed Yr oedd etto yn darlithio ar yr hyn a welai ar ei daith hirfaith hon ei ddewisiad ar y fath neges bwysig yn anrhydedd mawr iddo ef, ei eglwys, a'r enwad yo Nghymru.

"Anerchiad maith a galluog gan y Parch. N. Thomas, Caerdydd, ar bwysigrwydd yr Iwerddon fel maes cenadol i'r Bedyddwyr. Sylwai fod yr iau ar gael ei thori, ac y dylai fod darpariaeth genym ni ar gyfer