angenrheidiau ysprydol y boblogaeth. Yr oedd Dr. Price the right man in the right place yn bresenol, a dymunai iddo ef a'i unig blentyn daith gysurus a llwyddiannus iawn.
“Yn awr, ar gais y Cadeirydd, a dymuniad y dorf fawr, daeth Dr. Price yn mlaen. Dywedai fod yn dda ganddo am yr idea o gwrdd gweddi ar ei ymadawiad, iddi gael ei bodolaeth tu allan i'r eglwys, ac fod yn dda gan ei enaid weled y fath dorf yn gwerthfawrogi a mwyn. hau cyfarfod gweddi. Diolchai i bawb am eu dymuniadau da ar ei ran. Ofnasai y byddai'r cyfarfod yn tueddbenu i wanychu ei yspryd; ond fod yn dda ganddo mai adgyfnerthiad yspryd y bu iddo. Yr oedd yr adeg bresenol yn un bwysig iawn yn hanes Iwerddon; yr Iwerddon oedd maes brwydr fawr y Dadgyssylltiad, lle yr oedd rhyddid i ennill y llawryf, a thrais i farw; ac y byddai y fuddugoliaeth hon yn cynnyrchu buddugoliaeth debyg etto yn Lloegr a Chymru. Dywedai fod gan y Bedyddwyr 100 o orsafoedd pregethu eisioes yn yr Iwerddon; ond fod yn rhaid cael 300 neu 400 yno ; ac fod y lleoedd i'w cael, ond fod eisieu arian i'w pwrcasu, a'u defnyddio, ac mai dyna oedd ei amcan ef a'i gyfaill yn myned i America. Yr oedd y Presbyteriaid wedi casglu £10,000 yn America, a'r Wesleyaid £12,000, er codi athrofa newydd yn Belfast. Dywedai iddo ef gael ei wahodd i'r America dair gwaith o'r blaen gan yr eglwysi Cymreig, gan gynnyg talu ei dreulion, a thalu am bregethwyr yn ei le gartref; ond wedi cael y cynnyg newydd hwn, nad allai ymattal yn hwy rhag myned. Dywedai fod ganddo lythyrau o gymmeradwyaeth oddiwrth gorff y Wesleyaid, yr Annibynwyr, y Presbyteriaid, oddiwrth Dr. Brook, Dr. Landels, y Barwn Falconer, &c.; felly y byddai pob pwlpud yn America yn agored iddo. Hefyd, fod ganddo lythyrau cymmeradwyol oddiwrth Gymmanfaoedd y Bedyddwyr yn y De a'r Gogledd, ac hefyd oddiwrth athrawon ein colegau; ac fod digon o waith wedi ei dori allan iddo gan ei gyfeillion yn America am 100 mlynedd! Dywedai hefyd fod y brodyr anwyl yn myned i gael cyfarfodydd gweddi ymadawol iddo yn Liverpool. Yna diolchodd i bawb am eu teimladau da tuag ato, gan ddymuno arnynt weddio drosto tra yn America. Cyflwynodd ei fab anwyl, y Parch. E. Gilbert Price, i nodded a chydymdeimlad yr eglwys tra y byddai ef yn absenol.
"Bydded Duw yn dyner o hono ef a'i blentyn, nes dyfod yn ol atom etto.
H. GWERFYL James.'[1]
"Treforris, Ebrill 8, 1869.
Boreu dydd Llun, Ebrill 5, 1869, cawn y Dr. a'i anwyl Emily yn cychwyn yn foreu o'r Rose Cottage. Mae torf
- ↑ Gwel Seren Cymru Ebrill 16, 1869.