aruthrol yn eu cyfarfod yn yr orsaf, wedi dyfod yno i ganu yn iach iddynt. Dyma y gerbydres yn ageru i fewn i'r orsaf, ac y mae calonau cyfeillion a chyfeillesau y Dr. a'i blentyn yn curo yn gyflymach, a'r cyffro yn myned yn fwy byw. Dacw'r Dr. yn cymmeryd ei sedd, a'i wyneb gwridgoch yn dysgleirio gan sirioldeb. Y mae ei ddwy law allan, ac yn cael eu hysgwyd braidd yn ddidrugaredd, a phob ysgydwad yn dynodi calonau pur yn llawn o serch a dymuniadau da ato. Dyna'r chwibanogl yn myned, a'r gerbydres yn cychwyn, ac wele y cadachau o bob lliw a llun yn cael eu hysgwyd fel baneri, a'r oll yn brofion fod person nodedig yn ymadael o Aberdar y diwrnod hwnw. Yn gynnar yn mhrydnawn yr un dydd wele Fedyddwyr Lerpwl ar eu dysgwyliad, a rhai o flaenoriaid yr enwad yn y ddinas yn awyddus edrych am y South Wales train yn dyfod i fewn, ac ar ei ddyfodiad i'r orsaf, wele y Dr. allan yn fywyd i gyd, ac yn derbyn gyda y sirioldeb mwyaf longyfarchiadau a groesawiad ei frodyr yn y ffydd ac ereill o'i hen gydnabyddion yn eu plith. Cychwynodd o Lerpwl dydd Mercher, y 7fed, ar fwrdd yr agerddlong, City of Antwerp. Cynnaliwyd cyfarfod gan eglwysi Bedyddiedig Lerpwl i ddymuno yn dda iddo ef ac Emily y nos Fawrth cyn hyny yn Great Cross Hall Street. Am yr arwydd hon o barch teimlai y Dr. yn dra diolchgar, fel y gwelwn oddiwrth y nodiad a ganlyn:—"
Mae rhwymau mawr arnaf yn mlaenllaw i ddiolch i'r Parch. A. J. Parry a chyfeillion anwyl Lerpwl am eu teimladau da, caruaidd, a hyfryd. Mae y pethau hyn oll yn fwy nag a allaswn byth freuddwydio am eu cael; ac am hyny, maent yn galw am uwch cydnabyddiaeth nag a allaf ei roddi. Ond yn wir, yn wir, yr wyf yn teimlo yn ddwys, ac yn annhraethol ddiolchgar i'r Arglwydd ac i ddynion." (Gweler Seren Cymru am Ebrill y 9fed, 1869.) Aeth amryw o gyfeillion Lerpwl i'w hebrwng i lan y dw'r, a rhai i fwrdd y llong. Yr oedd y Dr. yn forwr da, fel y dywedir. Teimlai efe a'i ferch yn nodedig o siriol a chalonog, a buont yn bur iach yr holl fordaith oddigerth y dyddiau cyntaf o honi. Cadwasant eu harchwaeth at ymborth, ac felly, bu y daith yn fwyniant perffaith iddynt. Cymmerai y Dr. ddyddordeb mawr, fel y mae yn naturiol i ni feddwl, yn mhobpeth a welai. Meddai ar lygad craff a meddwl parod, a gallai droi pob peth i ddefnydd da yn ddidrafferth, a thrwy hyny, y mae yn fuan yn tynu sylw pawb ar y bwrdd ato fel dyn nodedig ac uwchlaw y cyffredin, er ei