Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/178

Gwirwyd y dudalen hon

Cymru a'r llythyrau hyny, y rhai oeddynt yn cael eu dysgwyl yn aiddgar ganddynt, ac yn cael eu darllen gyda blas mawr. Cymmerasom y drafferth o gyfrif y llythyrau yn nghyd a nifer y colofnau a gynnwysent, er rhoddi enghraifft o'r hyn allai y Dr. wneyd o waith yn yr hyn a ystyriai efe ei "oriau hamddenol." O'r llythyr cyntaf sydd yn dwyn y dyddiad Mawrth 1af, 1869, a ysgrifenwyd ganddo pan yn cychwyn o Aberdar, hyd yr olaf, sydd yn dwyn y dyddiad Rhagfyr 24, 1869 (a ysgrifenodd wedi ei gyrhaeddiad gartref), cawn 27 o lythyrau, yn gwneyd gyda'u gilydd 71 colofn o Seren Cymru. Cymmerant i fewn nifer lluosog o wahanol ac amrywiol faterion, megys “Hanes dinasoedd mawrion y wlad," "Sefydliadau cyhoeddus,' Eglwysi a Chapeli," Golygfeydd natur—y mynyddoedd, yr afonydd, llynoedd, rhosdiroedd a choedydd," "Sefyllfa foesol a chrefyddol y wlad,” “Hen aelodau crefyddol a chyfeillion gyfarfyddai o Gymru yno, eu cyssylltiadau gwahanol yn yr hen wlad,” yn nghyd â llu ereill o bynciau allem nodi. Dyma gyfrol dda iawn, onite? Ie, gallwn anturio dweyd, gwerthfawr iawn, hefyd; oblegyd, yr ydym wrth eu darllen yn frysiog yn nglyn â'r gwaith hwn (er wedi cael mwynhad mawr wrth eu darllen pan gyhoeddwyd hwynt gyntaf) wedi cael ein taraw â syndod wrth feddwl gymmaint o wybodaeth hanesyddol, gyffredinol, a thra buddiol a gynnwysant. Yr ydym wedi ein temptio fwy nag unwaith i osod rhai o honynt i fewn yn enghraifft o allu mawr ac amrywiol eu hawdwr, ond yr ydym yn ymattal, yn y gobaith y cyhoeddir hwynt etto yn nglyn â gweithiau ereill o eiddo y Dr.

Tra yn yr America derbyniodd yr hybarch Ddr. yr anerchiad canlynol yn arwydd o serch a pharch ei frodyr ato:—

ANERCHIAD CROESAWUS

Cyflwynedig i'r Parch. Thomas Price, M.A., Ph D, Aberdar, Deheudir Cymru, gan bwyllgor neillduol o Fedyddwyr Cymreig, cynnulledig yn Youngstown, Ohio, Gogledd America.

BARCHEDIG SYR,—Yn gymmaint â chaniatau o'r Arglwydd yn ol ei radlawn diriondeb i chwi gael ymweled â ni, Genedl y Cymry yn y wlad hon:

1af, Penderfynwyd, Yn ol ein hadnabyddiaeth a'n gwybodaeth hanesyddol o honoch, eich groesawu a'ch derbyn fel prif gynnrychiolydd