ein cenedl yn Nghymru, yn gymmaint â'ch bod bob amser yn amddiffynydd dewr i'n hiawnderau, yn wladgarwr trwyadl a didwyll, ac fel Rhyddfrydwr wedi treulio eich oes, a gwario llawer o feddiannau i ymladd brwydrau rhyddid yn erbyn cadarn ormes a thrawsarglwyddiaeth wladol; ac fel un na bu uchel swyddogaeth, cyfoeth, na gallu mawreddog y bendefigaeth yn Mhrydain Fawr, yn effeithiol i'ch gwangaloni na'ch attal rhag cyflawnu eich amcanion er lles a budd y genedl.
2il. Penderfynwyd, Eich cydnabod fel cynnrychiolydd neillduol o'r Cyfundeb parchus Cristionogol a elwir y Bedyddwyr Neillduol yn Nghymru, o herwydd eich bod bob amser wedi defnyddio eich gallu a'ch medrusrwydd diail er amddiffyn a lledaenu egwyddorion pur gwir Grefydd, yn ei gwahanol ddosparthiadau. Nid oes neb wedi rhagori arnoch mewn diwydrwydd a gweithgarwch gyda'r Cymdeithasau Cenadol a Chyfieithadol, yn Gartrefol a Thramor; ac y mae agwedd lewyrchus y Bedyddwyr yn Morganwg, yn neillduol Dosparth Aberdar, yn nhrefnusrwydd eu llywodraeth, yn amlder eu haddoliadau, yn lluosogrwydd eu haelodau, yn nghyd â nifer yr Ysgolion Sabbothol, &c., megys colofnau uchel ac eglur, a'ch enw chwi arnynt y blaenaf mewn gwaith da.
3ydd. Penderfynwyd, Dychwelyd i chwi y diolchgarwch mwyaf gwresog a chalonog am eich caredigrwydd hynaws yn ymweled â ni yn ein gwlad fabwysiedig, ac ymdrechwn wneyd ein rhan er eich cysur tra yn ein plith.
"Gweddiwn am i'r Duw a'ch llwyddodd yn Nghymru etto i goroni eich ymdrechion a'ch amcanion o blaid enw'r Iesu, a llwyddiant Teyrnas Nefoedd tra yn America.
Dymunwn hefyd i'r Ior, yn nhrefn ddoeth ei Ragluniaeth, noddi a chadw eich personau chwi a'ch anwyl ferch, Miss Emily Price, yn nghysgod ei law yma, ac ar eich dychweliad i Gymru.
A hyderwn y bydd yr ymweliad hwn o'r eiddoch â ni gynnyddu yr Undeb, a chreu mwy o gydweithrediad rhyngom ni a'n cydgenedl anwyl y tu draw i'r môr er ein llesoli a'n llwyddo yn dymhorol ac ysprydol.
Amen.
Yr eiddoch mewn undeb ffydd,
Tachwedd 12, 1869.
Ni ddygwyddodd dim o bwys ar ei daith gartref hyd ei ddyfodiad i Aberdar, ac nid oes un nodiad neillduol wedi ei ysgrifenu ganddo yn ei ddyddiadur ond a ganlyn:—