Dr. Price unwaith etto yn Aberdar. Y nos Iau ganlynol, cafwyd cyfarfod cyhoeddus yn Nghalfaria, er croesawu y Dr. ar ei ddychweliad. Yr oedd 27 o weinidogion yn y cwrdd, yn nghyd â llawer o fasnachwyr cyfrifol a lleygwyr blaenaf a pharchusaf yr enwad yn y dyffryn a'r sir. Darllenwyd anerchiad caredig gan Mr. Jenkin Howell, arweinydd y cor, i Miss Emily Price, ar ran y cor; a chyflwynwyd work table iddi gan Mr. John Roberts, arweinydd y cor bach, dros y plant. Cyflwynodd Miss Jones iddi hefyd Feibl addurnedig oddiwrth ddosparth o wragedd da. Cyflwynwyd hefyd anerchiadau oddiwrth yr eglwys a'r gweinidogion i'r hybarch Ddr., ac yr oedd yr holl roddion a'r anerchiadau yn tystio fod yn dda gan yr eglwys yn Nghalfaria eu gweled wedi dychwelyd o'u teithiau meithion. Rhagfyr 22ain, 1869, cafodd Dr. Price ei anrhydeddu â chiniaw cyhoeddus, yn Music Hall y Cardiff Castle Hotel. Yr oedd y cwmpeini cynnulledig o'r fath fwyaf anrhydeddus, ac yn cynnwys rhai o brif foneddigion y lle. Addurnwyd yr ystafell yn ddestlus ar yr achlysur, ac o bob tu i'r gadair crogai llumanau Americanaidd a Brytanaidd. Llanwyd y gadair gan I. D. Rees, Ysw., yr is-gadair gan Dr. Davies, Bryngolwg. Ar yr ochr dde i'r cadeirydd eisteddai y Parchus Ddr. Price, guest y prydnawn, ac ar y tu arall yr eisteddai Richard Fothergill, Ysw., yn nghyd â Colonel H. Davies, yr American Consul. Cafwyd cyfarfod bywiog a dyddorol, ac anerchiadau tanllyd gan amryw o foneddigion parchus Aberdar a'r cylch, a'r oll yn llwythog o deimladau a dymuniadau da i arwr y cwrdd yr enwog. Ddr. Price." Dichon y bydd yr adroddiadau hyn am yr arwyddion o barch a wnaed i'r Dr. anwyl yn creu amheuaeth yn meddyliau y rhai nid adwaenent ef, a gallant dybio fy mod yn defnyddio gormodiaeth; ond nid felly, canys gwyr y rhai gawsant adnabyddiaeth bersonol o hono nad ydym ond yn rhoddi adroddiad syml o'r hyn a gymmerodd le yn mywyd y gwr enwog. Nid ydym yn gwybod am un gweinidog yn y Dywysogaeth gafodd anrhydeddau a pharch mwy na'r Dr., fel y cawn ddangos yn mhellach mewn cyssylltiadau ereill. Y mae y rheswm am hyn oll i'w gael yn y llafur a'r gwaith rhyfeddol gyflawnodd, a hyny gyda'r amcanion uchelaf, ac yn yr yspryd a'r teimladau mwyaf hunanymwadol. Dywedwn, nad oedd yr oll, wedi y cwbl, ond gweithiad allan gynghor yr apostol, "Talu parch i'r hwn yr oedd parch yn ddyledus iddo."