gyda golwg ar yr egwyddor rydd ewyllysiol, ac hefyd ar y tegwch, gan fod yr Ymneillduwyr gymmaint yn lluosocach na hwy, yr Eglwyswyr, iddynt gael llais ac awdurdod ar y gladdfa gyhoeddus fwriedid ei chael i Aberdar, ac i brofi ei fod yn ddifrifol yn y mater, rhoddodd archeb am £100 ati ar unwaith. Terfynwyd y cwrdd wedi dyrysu cynlluniau y Ficer a'i blaid, ac ni fu son mwyach am y Dreth Eglwys yn Aberdar. Cododd hyn Price yn uchel yn ngolwg Annghydffurfwyr y dref a'r dyffryn, ond bu yn nod i saethau am amser gan y blaid wrthwynebol.
Arweiniodd yr amgylchiadau crybwylledig ef i gymmeryd cam mwy penderfynol yn erbyn Toriaeth yn ei gwahanol arweddion, ac yn neillduol gyssylltiad eglwys â gwladwriaeth, nag a gymmerasai efe erioed o'r blaen. Dywedai yn ei herbyn, a rhoddai ergydion trymion iddi yn aml o'r pwlpud a thrwy y wasg, ac ymdrechai yn egniol dros egwyddorion Rhyddfrydig yn amser etholiadau ac ar bob adeg y cai gyfleusdra.
Yn fuan drwy hyn cododd i safle uchel fel gwleidyddwr, ac yn wir, cydnabyddid ef yn awdurdod ar y pwnc. Yr oedd o'r dechreuad yn un o gefnogwyr mwyaf diffuant Cymdeithas Rhyddhad Crefydd. Darllenai yn awyddus ei holl lenyddiaeth boliticaidd, a myfyriai hi yn drylwyr, a bu hyn, yn ddiddadl, yn foddion i angerddoli ei deimladau, a'i wneyd yn fwy penderfynol a beiddgar yn ei ymdrechion o blaid rhyddid gwladol a chrefyddol. Cymmerodd ran flaenllaw yn mhob etholiad o bwys—lleol a sirol—o'i sefydliad yn y weinidogaeth hyd derfyn ei oes. Bu yn gynnorthwywr effeithiol i C. R. M. Talbot, Ysw., Margam; H. H. Vivian, Ysw.; H. A. Bruce, Ysw., yn awr Arglwydd Aberdar; L. L. Dillwyn, Ysw., Abertawe; Richard Fothergill; a llu ereill a ellid eu nodi, yn eu brwydrau etholiadol. Pan fuasai brwydr etholiadol yn ymddangos megys yn y pellder, ceid gweled yn gyffredin yr Aelodau Seneddol a'u swyddogion yn cyfeirio eu camrau tua'r Rose Cottage, ac yn ceisio sicrhau cynnorthwy a dylanwad yr enwog Ddr. Pan yn ddyn ieuanc, yn anterth ei nerth a'i ogoniant, nid yn aml y deuai i'r un esgynlawr ag ef neb i'w guro fel areithiwr gwleidyddol. Yr oedd bob amser yn sicr o'r hwyl fwyaf, a chariai y cwbl o'i flaen megys llifeiriant. Yr oedd cuddiad ei gryfder yn hyn, fel mewn cyfeiriadau ereill, yn ei allu digyffelyb i alw i fyny at ei wasanaeth ystadegau a