Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/186

Gwirwyd y dudalen hon

ffeithiau o'r gorphenol, yn nghyd â'i fedrusrwydd dihafal i wneyd y defnydd goreu o honynt ar y pryd. Areithiodd lawer ar wleidyddiaeth gyda grym a dylanwad anwrthwynebol. Ysgrifenodd fwy yn y gwahanol newyddiaduron a fuont dan ei ofal golygyddol, megys y Gweithiwr, y Gwron, Seren Cymru, a chyhoeddiadau wythnosol a misol ereill. Yr oedd myned i gyfarfodydd politicaidd yn foddhad i'w enaid, ac yno yn gyffredin y gwelid ef yn ei ogoniant penaf, o herwydd yr oedd yn llwyfanwr ardderchog.

Yr oedd ynddo lawer iawn o wroldeb yspryd, yr hwn a'i gweithiodd yn mlaen aml dro yn ngwyneb y llifeiriant gwrthwynebol, ac a'i cariodd i fuddugoliaeth drwy lawer brwydr danllyd. Ymosodid yn greulawn arno ar lawer adeg gan Doriaid penboeth ac Eglwyswyr defodol. Rhuthrwyd arno yn llechwraidd mewn papyrau dyddiol, wythnosol, a misol, yn aml, mewn ysgrifau bryntion dan ffugenwau anadnabyddus. Arllwysid arno ganddynt holl felldithion Eglwys Rhufain a'i merch, yr Eglwys Sefydledig; ond nid oedd digon o allu ganddynt i'w ladd na digon o ddylanwad gan eu herlidigaeth i'w darfu na'i ddychrynu. Yn mlaen yr elai er pob dirmyg, heb brisio dim a ddywedai neb yn ei erbyn. Ymlynu wrth egwyddor a gwirionedd wnelai pe y gorfodid iddo dderbyn yr un dynghed â'r Bedyddiwr gynt. Nid amddiffyn yr egwyddorion Rhyddfrydig ac Ymneillduol yn unig yr oedd; eithr cymmerai yr ochr ymosodol (aggressive). Nid oedd yn credu mewn bod yn llonydd ac esmwyth, fel llawer, tra y cai lonyddwch; eithr teimlai ei bod yn ddyledswydd orphwysedig arno, er mwyn crefydd, dyn, a Duw, i dori ar draws pob rhith o ormes ac annghyfiawnder yn y byd politicaidd a chrefyddol, yn gystal ag amddiffyn cyfiawnder ac uniondeb cymdeithasol.

Dywedai efe ei feddwl yn ddifloesgni wrth yr Aelod Seneddol ar yr esgynlawr o flaen ei wyneb os gwelai yr aelod yn rhy araf ei gerddediad gyda brasgamau Rhyddfrydiaeth. Cawn ef yn ddynol a gwrol yn croesi cleddyf â'r enwog H. A. Bruce, yr Aelod dros Ferthyr yr adeg hono, yn y cyfarfod gogoneddus a gynnaliwyd yn gyssylltiedig â'r giniaw anrhydeddus a roddwyd gan Bwyllgor Rhyddfrydig Mri. Talbot a Vivian yn yr Assembly Room yn Aberdar dydd Mawrth, Ebrill 21, 1857, pryd yr oedd pump aelod y sir yn bresenol. Gwrthodai Mr. Bruce yr adeg hono addaw pleidleisio dros y tugel,[1] a chymmerodd Price ef i fyny am hyny, a dangosodd iddo fod yn rhaid i'r

  1. pleidlais gudd