mawr ac urddas, ac yn eu plith Mr. Henry Richard, Llundain; ond drwy barhad dirgymhellion llawer o'r etholwyr, a phersonau o allu a dylanwad, penderfynodd ymladd y frwydr, neu i'r Iarll dderbyn yn llawn y prwygraifft Rhyddfrydol. Mewn nodiad golygyddol o'i eiddo yn Seren Cymru am Tachwedd 17, 1865, dywed,
"Etholiad Aberhonddu. Mae Dr. Price yn dymuno diolch o galon i'r Parch. Daniel Morgan, a nifer luosog ereill o ddynion da a sylwgar, am eu dymuniadau da, a'r awydd a ddangosant am iddo sefyll dros Aberhonddu. Mae hyn oll wedi peru iddo ymholi, ac agos penderfynu, os na fydd i'r ymgeisydd rhyddgarol lefaru yn fwy croew ac eglur nag yn ei anerchiad cyntaf; ac os na fydd i neb arall ddyfod allan, o blaid rhyddid gwladol a chrefyddol, y bydd i Dr. Price roddi cyfle i'w hen gyfeillion yn Aberhonddu ddadgan eu barn ar brif bynciau y dydd, yn gystal â rhoddi eu pleidleisiau o blaid y cyfryw egwyddorion a ddylent hynodi etholwyr rhyddfrydig prif dref gwlad Brychan."
Yn Seren Cymru am Rhagfyr 22, 1865, cawn anerchiadau yn awr y tri ymgeisydd, sef Iarll Aberhonddu, Howell Gwyn, a Thomas Price, ac y mae y gwahaniaeth rhyngddynt braidd yn annghredadwy. Dywed Cefni am anerchiad y Dr., "Y mae yn gredit i Dr. Price ei fod wedi cyfansoddi y fath anerchiad galluog, yr hwn o ran iaith a chyfansoddiad sydd yn tra rhagori ar eiddo y ddau ymgeisydd arall, ac annhraethol fwy politicaidd a didactic. "On the other hand, Dr. Price's address is simple, expressive, comprehensive, ably written the very thing—quite a credit to himself, to Nonconformists in general, and to the Baptists particularly." Dyna ddywedodd Kilsby Jones am dani. Yr oedd cynnwysiad yr anerchiad mor orlawn o fater, ei chyfansoddiad mor syml, a'i geiriad mor eglur, fel nad oedd eisieu treulio amser i'w hegluro. Rhwymai y Dr. ei hun ynddi i bleidio pob mesur diwygiadol er lles y wlad—diwygiad Seneddol, addysg y bobl, y tugel, dyddimiad y Dreth Eglwys, cymdeithasau cyfeillgar, agoriad y prif ysgolion i'r Annghydffurfwyr, yn nghyd â phob mesur da arall. Yn gweled anerchiad godidog y Dr., dychrynwyd yr Iarll, ac aeth efe a'i gyfeillion yn ebrwydd i ystyried y mater, a phenderfynasant gyhoeddi ar unwaith ail anerchiad, a gwnaeth yr Iarll addewidion pwysig i'r etholwyr Rhyddfrydol, a chymmerodd i fewn i'w anerchiad yr hyn a geisiai y Dr.