Yn gweled ei fod wedi cyrhaedd ei amcan i sicrhau cynnrychiolydd yn addaw cymmeryd holl blanks y plat- form Rhyddfrydig i fyny, enciliodd y Dr. o'r maes, wedi gwneyd gwasanaeth gwerthfawr, nid yn unig i wlad Brych- an, ond hefyd i'r Dywysogaeth yn gyffredinol, trwy gyffroi teimlad y werin, a'r dosparth gweithgar yn neillduol, i hawlio eu hiawnderau fel gweithwyr, ac i'w llais gael ei glywed yn Nhy y Cyffredin. Cafodd y Dr. yr adeg hono lawer o lythyrau oddiwrth bersonau o ddylanwad ac urddas; ac oddiwrth berchenogion a golygyddion gwahanol newyddiaduron yn Nghymru a Lloegr yn addaw eu cefnogaeth ac yn cynnyg eu cynnorthwy iddo. Yn mhlith ereill derbyniodd lythyrau caredig oddiwrth berchenogion y National Reform Union, The Illustrated hristian Times, Daily Press (Bristol), The Merthyr Telegraph, The Merthyr Express, Baner ac Amserau Cymru, &c., &c. Derbyniodd hefyd lawer o lythyrau o Gymru a Lloegr, yn taer ddymuno arno beidio rhoddi i fyny ei weinidogaeth a chylchoedd pwysig ereill o wasanaeth a defnyddioldeb er mwyn y Senedd, gan yr ofnent y byddai y golled yn y gwahanol gylchoedd pwysig a lanwai yn fwy nâ'r ennill wrth iddo gael sedd yn Nhy y Cyffredin.
Nos Fercher, Ionawr 24, 1866, cyfarfu y Dr. yr etholwyr ac ereill yn Neuadd Tref Aberhonddu, i'r dyben o egluro iddynt ei olygiadau gwleidyddol. Daeth yn nghyd un o'r cynnulliadau mwyaf lluosog a welwyd erioed yn yr hen dref barchus i ddyben gwleidyddol, yr hyn oedd yn llefaru yn uchel iawn am barch ac anrhydedd y Dr. yn ei hen gartref. Yn mhlith boneddigion o safle a dylanwad yn y dref ag oeddynt yn bresenol yr oedd John Prothero, Ysw., Maer y dref; G. Gansick, Ysw., cyn-Faer; John Williams, Ysw., trengholwr; J. Joseph, Ysw.; T. C. Perks; H. Lloyd, Ysw.; Mr. Davies, gemydd; Mr. Bright, fferyllydd; Mr. Walton, y Parch. D. B. Edwards, &c. Hefyd, yr oedd amryw o gyfeillion pellenig y Dr. yn bresenol, sef y Parchn. W. Roberts (Nefydd), Blaenau; M. Phillips, Brynmawr; James, Pontestyll; Evans, Llangynnidr; Llewelyn, Erwood; John, Aberdar; Harris, Heolyfelin, &c., &c.
Cymmerwyd y gadair gan Mr. Jones, fferyllydd, yr hwn, wedi agor y cyfarfod mewn anerchiad byr a phwrpasol, a alwodd ar y Dr. i anerch y cyfarfod. Ar ei waith yn codi derbyniwyd ef gyda chymmeradwyaeth uchel. Traddododd iddynt un o'r areithiau mwyaf meddylgar, manwl, a gallu-