Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/194

Gwirwyd y dudalen hon

og. Yr oedd yn gyflawn o wybodaeth a ffeithiau gwleidyddol, a'r traddodiad o honi, er yn y Saesneg, yn ystwyth, hyawdl, a meistrolgar. Er fod yno lawer o wrthwynebwyr iddo yn y neuadd ar y cychwyn, etto, llwyr argyhoeddwyd hwynt yn fuan fod y Tom Price a gablent yn flaenorol yn anrhydedd i'w gwlad fod y fath un wedi codi ynddi. Cyhoeddwyd yr araeth odidog hon yn rhai o brif newyddiaduron y deyrnas yn Gymraeg a Saesneg. Tynodd lawer o sylw, a chafodd gymmeradwyaethau uchel gan wleidyddwyr goleuedig a phrofiadol. Y mae yr araeth i'w gweled yn argraffedig yn Seren Cymru am Chwefror 9, 1866.

Ar ddiwedd y cyfarfod, wedi ateb nifer lluosog o ofyniadau, a derbyn llongyfarchiadau a chymmeradwyaeth y boneddigion a siaradent yn y cyfarfod a'r dorf, hyspysodd hwynt ei fod wedi cyrhaedd ei amcan drwy wasgu ychydig ar Doriaeth allan o galon yr Iarll, a lledu tipyn ar ei feddwl yn gyssylltiedig â gwleidiadaeth ei wlad; felly, ei fod yn encilio o'r maes yn yr hyder y buasent yn uno eu galluoedd i ddychwelyd yn anrhydeddus yr ymgeisydd Rhyddfrydol. Diolchwyd yn wresog iddo am ei deimlad da a'i wasanaeth gwerthfawr dros ei wlad a'i genedl. Derbyniodd hefyd gymmeradwyaeth gyffredinol am y gwasanaeth mawr a wnaeth i'r achos Rhyddfrydig yn Aberhonddu. Pasiwyd pleidleisiau o ddiolchgarwch iddo mewn pwyllgorau a chynnadleddau gwahanol, a chafodd ei anrhegu â thysteb ac anerchiad hardd gan gyfeillion yn Aberdar. Silver inkstand werthfawr oedd y rhodd, ar yr hwn yr oedd yn gerfiedig y llinellau canlynol:" Presented together with an Address to the Rev. Thomas Price, M.A., Ph.D., in recognition of the services rendered by him to religious and political freedom in connection with the election of the Borough of Brecon, 1866." Yr oedd yr anerchiad wedi ei argraffu mewn llythyren euraidd ar sidan lliwiedig, ac mewn frame ardderchog. Cyflwynwyd hwy iddo mewn ciniaw gyhoeddus wnaed er ei anrhydedd yn y Cardiff Castle Hotel, Aberdar, nos Lun, Ebrill 8, 1867.

Gwnelai holl anerchiadau ac areithiau godidog y Dr. ar bynciau gwleidyddol, ar wahanol achosion ac mewn gwahanol leoedd o bryd i bryd, gyfrol ddyddorol a gwir werthfawr pe cyhoeddid hwynt. Cymmerwn ein cenad bellach i adael y gwleidyddwr er cael golwg fer ar yr un person yn ymddangos fel cymdeithaswr.