mewn deddfwriaeth gyfaddas ac effeithiol, er fod gwelliantau i'w dymuno a'u dysgwyl etto. Dylai y cymdeithasau hyn gael cydymdeimlad dwbl pan yr ystyriom yr amcan mewn golwg a'r dosparth lluosog sydd i'w llesoli drwyddynt. Darparu erbyn dydd blin ac adfyd y byw yn herwydd angen ydynt ddybenion penaf eu bodolaeth, a'r dosparth gweithgar yn fwyaf cyffredin a'u cyfansoddant. Felly, gan fod gweithwyr diwyd a gonest, yn eu hymornest ag amgylchiadau y byd ac â brwydrau celyd bywyd, yn eu cyfansoddi yn benaf, dylent gael sylw manylaf y doethawr, y cyfoethog, a'r urddasol, a chydymdeimlad dwys ac ymarferol pawb â'u hamcanion aruchel. Nid ydym yn gwybod am neb yn y Dywysogaeth a wnaeth gymmaint gyda a thros y cymdeithasau dyngarol a'r hybarch Ddr. Price. Gellid meddwl, wrth ei weled yn gweithio yn ei gyssylltiad crefyddol gyda'i eglwys barchus yn Nghalfaria a'i enwad anrhydeddus, ei fod yn canoli ei holl nerth a'i egnion yno, ac nad oedd ganddo allu nac amser i ddim arall. Wrth edrych arno a meddwl am ei weithgarwch dros a'i ymdrechion gyda gwleidiadaeth, gallem feddwl nad oedd ganddo allu nac ychwaith amser i ddim arall. Ond wrth edrych arno yn ei berthynas â'r cymdeithasau dyngarol wed'yn, gellid tybied nad oedd yn talu sylw i ddim ond iddynt hwy, oblegyd gwyddai bob peth am danynt; cymmerai safle a rhan blaenor gyda phob mudiad o bwys perthynol iddynt; yr oedd yn barod i waith bob amser, ac yn brydlon a deheuig yn ei gyflawnu. Deuai yn fynych dan farn condemniad rhai pobl gali (?) a gorgrefyddol o herwydd ei fod yn ymgyssylltu yn ormodol â'r clybiau; ond gellir bod yn sicr o hyn, iddo ef wneyd mwy o wir les yn ei berthynas â'r cymdeithasau i'w gyd-ddynion nag a wnaeth y clybiau o ddrwg iddo ef. Credwn pe cymmerai gweinidogion fwy o ddyddordeb ac arweiniad yn y cymdeithasau cyfeillgar, y byddai y cymdeithasau mewn cyflyrau gwell nag ydynt yn bresenol, ac y mae yn bossibl y caffent gyfleusdra i wneyd mwy o ddaioni moesol i'w cydddynion. Bu y Dr. yn alluog i wneyd daioni annhraethol i gymdeithas yn ei gyssylltiad â'r cymdeithasau dyngarol. Yr oedd ganddo allu mawr, gwnaeth waith mawr, ac ennillodd drwy hyn anrhydedd a chlod mawr iddo ei hun. Perthynai efe braidd i bob urdd o bwys, a gwnaeth waith rhagorol gyda hwynt oll. Yr oedd er yn gynnar yn Odydd, Ifor, Alffrediad, a Choedwigwr, ac yn aelod o ryw chwech
Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/196
Gwirwyd y dudalen hon