Alffrediaid, ac yr oedd llanw y swyddi hyn fel y gwnaeth efe, yn golygu llafur a gofal mawr. Gosodai presenoldeb y Dr. fri bob amser ar y cyfarfodydd perthynol i'r urddau gwahanol, a gwnai iddynt edrych yn llawn a chysurus. Yr oedd yn ddyfyrus pan fuasai amser ac amgylchiadau yn caniatau, ac yn ddifrifol a phenderfynol pan fuasai galw am ei wasanaeth. Ar wleddoedd a chiniawau pleidleisid ef i'r uwch-gadair yn ddieithriad braidd, a phennodid ef yn fwyttorydd (carver), a gallwn sicrhau ei bod yn wledd i'w glywed yn adrodd ystorïau digrif ac yn ffraethebu nes cadw y lle yn fyw gan grechwen a chwerthin.
Pan oedd y Dr. yn ei ogoniant, nid oedd cwrdd chwarter nac unrhyw gwrdd o bwys gan yr urddau yn Aberdar nad oedd efe yn bresenol ynddo. Yr oedd bob amser yn myned â'i gi bach, Romeo (yr hwn a laddwyd, am yr hwn y bu cymmaint o alaru gan deulu y Rose Cottage), gydag ef i'r cyrddau hyn. Yr oedd Romeo, meddai y Dr., yn gystal Odydd, Ifor, neu Alffrediad, â neb, oblegyd yr oedd bob amser yn mynychu y cyrddau pwysicaf, ac yn sicr o fod yn bresenol pan fuasai ciniaw dda yn y cwestiwn. Pan fuasai y Dr. yn carvio, yr oedd yn rhoddi y slice gyntaf a dorai i Romeo bach, "rhag iddo," meddai efe, "chwyrnu a dangos ei ddannedd arnynt." Cafwyd llawer o ddyfyrwch gydag ef a'i ddonioldeb yn desgrifio y bechgyn glythion fyddent yn cwrdd weithiau yn y gwleddoedd. "Meddylient lawer," meddai, "am fwyd y clwb. Darparent eu ffetanau amser hir cyn ciniaw y clwb, a byddai cyfiawnder helaethach nag arferol yn cael ei wneyd â hi ganddynt yn gyffredin." Yr oedd y Dr. yn mhob ystyr o'r gair yn Yr oedd yn dra phoblogaidd, ac yn ffafrddyn gan bawb a'i hadwaenent yn nghylch y cymdeithasau cyfeillgar. Mae hyn yn ddïos yn cyfrif i raddau helaeth am ei ddylanwad, ac hefyd am y safleoedd pwysig a gyr- haeddodd yn gyssylltiedig â hwynt: llanwodd yn eu plith y swyddi uchaf, a chafodd ganddynt yr anrhydeddau mwyaf allent roddi i neb.
Gormod gorchwyl fyddai i ni ddylyn camrau y Dr. enwog gartref ac oddicartref yn ei waith pwysig a'i lwyddiannau rhyfeddol gyda'r Urdd Odyddol. Wedi myned drwy y cadeiriau gartref, a derbyn yr anrhydeddau mwyaf gan ei genedl ei hun, cododd ei olwg ar y safle a'r anrhydedd uchaf perthynol i'r urdd, ac y mae drwy ei egnion diflino yn mynu eu cyrhaedd. Nid peth bach a dibwys oedd cael