Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/204

Gwirwyd y dudalen hon

odd, y mae yn ddarn hollol wreiddiol o ran cynllun a dull, ac o wneuthuriad yn ardderchog dros ben, ac yn llawer mwy felly am ei fod yn ffrwyth teimlad cariadlawn dros bymtheng mil o ddynion ag oeddynt yn cydlafurio â Dr. Price i wneyd y byd yn well. Darllenwyd a chyflwynwyd anerchiad wedi ei ddarparu a'i engrosso yn dlws a hardd iddo ar yr amgylchiad. Rhoddodd y Dr. un o'r areithiau mwyaf galluog a chyfaddas ag a draddodwyd erioed o gadair yr Undeb Odyddol ar y dydd Llun, Mai 21ain, 1866, yn Burton-on-Trent. Derbyniodd y gymmeradwyaeth uchaf; cyhoeddwyd hi yn dra chyflym yn mhrif newyddiaduron Cymreig a Seisnig y deyrnas, a gwnaeth y Cymro dewrfrydig enw iddo ei hun, ac anrhydeddwyd ei wlad a'i genedl.

Ni fu llafur ac egnion y Dr. yn llai effeithiol gyda'r Urdd Iforaidd. Er fod terfynau y cylch Iforaidd yn gyfyngach nâ'r Undeb Odyddol, etto pan ymunodd y Dr. â'r Iforiaid, gwelodd fod gwaith mawr ag eisieu ei gyflawnu. Ymunodd y Dr. â'r Urdd Iforaidd yn fuan iawn wedi ei ddyfodiad i Aberdar. Y pryd hwnw yr oedd agwedd wahanol ar ei adran ei hun i'r peth ydyw yn bresenol, wedi bod dan ofal manwl a chyfeiriad doeth brodyr da fel y diweddar frawd Thomas Williams, cyn-ysgrifenydd yr adran; David R. Lewis, ysgrifenydd presenol yr adran; yn gystal â blynyddau meithion o lafur difefl y parchus Ddr. ei hun. Ac am yr Urdd yr adeg hono, yr oedd yn nwylaw un dyn yn agos oll. Cynnrychiolodd y Dr. ei adran ei hun yn Nghynnadledd Flynyddol Aberdar yn 1857. Yno, oddiwrth yr hyn a welodd ac a deimlodd, penderfynodd wneyd un o ddau beth ar unwaith, naill ai gadael Iforiaeth fel dyn yn gadael llong ar fyned yn chwilfriw, neu wneyd ei oreu gyda dynion da ereill i achub y llestr cyn taro y graig, a syrthio yn ysglyfaeth rhwng y tonau. Yr olaf a wnaeth.

Yn 1859 cawn ef yn genadwr dros Aberdar yn Nghynnadledd Llandeilo, lle y bu yn ystorom ofnadwy. Methwyd llwyddo yn y gynnadledd o herwydd y dull o bleidleisio, ond llwyddwyd i osod lefain yn y blawd; a chyn gadael y dref y noson hono cafwyd allan fod gweithrediadau y gynnadledd yn annghyfiawn, trwy fod y pleidleisiau yn afreolaidd. Mewn canlyniad i hyn, bu cwrdd pwysig yn Merthyr; yna, cynnadledd gyffredinol arbenig yn Abertawe, pan lwyddwyd i newid y cyfansoddiad i gymmaint graddau fel ag i