gael swyddogion yr Undeb a Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn debyg i'w ffurf bresenol. Gwnawd y Bank yn Aberdar yn drysorydd, ond nid oedd dimai yn y drysorfa. Ar gais y Dr., caniataodd banker i roddi arian i fyned yn mlaen. Felly y bu am y ddwy flynedd gyntaf, byw fel y gellid a'r banker rhwng yr Undeb a'r gwaethaf. Dyoddefodd y Dr. yn yr helyntion hyny lawer iawn o dafod drwg, amheuaeth, a pheth cabledd; ond yn mhen ychydig bach o amser gwelai pawb mai efe oedd iawn, a thrwy ei benderfyniad diysgog, ei bwyll a'i ddoethineb, achubodd Iforiaeth o balfau dinystr. Yn fuan ar ol hyn ymchwiliodd am eiddo yr Undeb, y llafnau (plates), y drwydded, a phethau ereill. Yr oedd y rhai hyn ar goll, ac ni wyddai neb lle yr oeddynt; ond llwyddodd y Dr. i'w cael allan. Yr oeddynt yn y pawn shop yn Manchester, a'r dyn a'u dododd yno fel crwydryn tlawd, heb ddim ond ei gorff, a hwnw yn lled deneu. Cydiodd y Dr. ynddo, ac awd ag ef o flaen ei well; ond diangodd, am nad oedd yr Undeb Iforaidd wedi ei gofrestru dan y gyfraith. Cadwodd y Dr. y peth yn ddystaw. Aeth i Gynnadledd Rhymni yn Ngorphenaf y flwyddyn hono, ac yno darbwyllodd y gynnadledd i fyny y rheolau wedi eu cofrestru. Caniataodd y gynnadledd iddo ail drefnu y rheolau, a gwnaeth hyny gyda chynnildeb a gofal mawr. Yna dodwyd yr Undeb dan y gyfraith yn Medi, 1859, ac yn mis Tachwedd wele y Dr. etto a'i law yn ngwar y dyn yn Manchester, yr hwn oedd wedi gwystlo y plates gwerthfawr.[1] Yn mhen ychydig cafodd y cwbl yn ol yn ddyogel, gwerth dros £120, na welsid byth mo honynt oni buasai ei ymdrechion ef. Etto gwnaeth hyn heb geiniog o dâl gan neb, ond boddlonrwydd cydwybod ei fod yn gwneyd yn iawn.
Yn y blynyddau 1860 a 1861, y mae y Dr. yn llanw y swydd bwysig o Uwch Lywydd yr Undeb.[2] Yn 1862 y mae yn cael ei bennodi yn Is-drysorydd yr Undeb, yr hon swydd a lanwodd yn ofalus ac anrhydeddus hyd ei fedd, a
- ↑ Ceir a ganlyn ar goflyfr yr Undeb o weithrediadau y gynnadledd yn 1859:- Penderfyniad 2, Fod y Parch. Thomas Price, Aberdar, i gael ei awdurdodi i fynu y llafnau (plates) oddiwrth Mr. Woods Man- chester, gan nas gellir cael dim oddiwrtho yn brydlawn." Etto. Ionawr 6ed, 1862, Cyfarfod y Bwrdd, Y Parch. T. Price wedi cael yr arluniau a'r llafnau."
- ↑ Un flwyddyn yn gyffredin yw y tymhor a wasanaetha llywyddion yr Undeb Iforaidd ; ond fel prawf o wir deilyngdod Price, a'i gyfaddasder neillduol i'r swydd, yn y flwyddyn ganlynol cafodd ei ail ethol i'r swydd gyda'r parodrwydd mwyaf.