Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/207

Gwirwyd y dudalen hon

Hydref y 18fed, 1865, yn y Bwrdd penderfynwyd,

"Fod y Bwrdd yn unfrydol yn awdurdodi swyddogion yr Undeb, yn nghyd â D. Griffith, Aberafon, a D. Lewis, Abertawe, aelodau y Bwrdd, i gael y pethau canlynol wedi eu parotoi er gwobrwyo y Dr. Price:—

Anerchiad wedi ei ysgrifenu ar groen yn Gymraeg a Saesneg, oriawr a chadwen aur, yn nghyd â llestri tê arian o'r fath oreu ag a ellir gael am yr arian, ac fod y cyfarfod i drosglwyddo y cyfryw i'r Dr. i'w gynnal yn Nghastellnedd."

Dydd Llun y Pasc, 1866, cyflwynwyd y dysteb i'r Dr., a chafwyd un o'r cyfarfodydd mwyaf ardderchog i wneyd hyn. Am hanner awr wedi dau ffurfiwyd gorymdaith yn gynnwysedig o luaws o frodyr Iforaidd, amryw o weinidogion o wahanol enwadau, a boneddigion y dref a'r gymmydogaeth, yn cael eu blaenori gan Seindorf yr 17eg Gatrawd o Wirfoddolwyr Morganwg. Pasiodd yr orymdaith drwy brif heolydd y dref, ac yna dychwelodd i Gapel y Bedyddwyr Cymreig, o herwydd fod Neuadd y Dref yn rhy fechan i gynnwys y dorf. Gorlanwyd y capel eang yn ddioed. Cymmerwyd y gadair gan Mr. Pendrill Charles, cyn-faer y dref, yr hwn a agorodd y cwrdd mewn araeth fer, pwrpasol, a thra chlodus i'r enwog Ddr. Wedi i amryw frodyr siarad, canwyd yn ardderchog ganig oedd wedi ei chyfansoddi gogyfer â'r amgylchiad gan Jenkin Howell, Aberdar, gan Gor Calfaria, dan arweiniad yr awdwr. Awdwr y geiriau oedd yr hybarch Ddr. B. Evans, Castellnedd. Yna, darllenwyd yr anerchiad canlynol i'r Dr. Gan ei fod yn cynnwys manylion am lafuriadau Price gyda'r urdd, a'i fod yntau pan yn fyw yn meddwl mwy braidd am dano nag am lawer o anerchiadau ereill a gafodd, gosodwn ef i fewn yma :—

Anerchiad i'r Parch. Thomas Price, C.L.U., oddiwrth Urdd y Gwir Iforiaid.

"Syr a Brawd,—Trwy eich caniatad, yr ydym ni, swyddogion yr Urdd, ac Aelodau Bwrdd y Cyfarwyddwyr, yn dymuno eich anerch yn enw ac ar ran pedair ar hugain o Adranoedd, a dau cant a dau ar bymtheg ar hugain o Gyfrinfaoedd, yn cynnwys pymtheg mil, saith cant a thri ugain a phymtheg o aelodau, ac yn taer ddymuno arnoch i dderbyn oddiwrth yr Urdd, y dysteb ag y mae genym y pleser o'i chynnyg i chwi.

"Am lawer o flynyddau yr ydych wedi treulio rhan fawr o'ch amser gwerthfawr er gwella sefyllfa y gwahanol urddau a'r cymdeithasau dyngarol. Mae eich ffyddlondeb mawr mewn cyssylltiad â'r Odydd-