Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/213

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XVI.

Y LLENOR, Y DARLITHIWR, A'R PREGETHWR.

Y Llenor, Darlithiwr, a'r Pregethwr—Y Dr. fel Saul yn mhlith y proffwydi—Y'n rhagori mewn amryw bethau—Ei ddiwydrwydd a'i benderfyniad—Rhestr o ysgrifau y Dr.—Ei gyssylltiad a'r Wasg — Ei ysgrifau yn 1864—Ei "Nodion Gwasgaredig"—Mawredd ei waith llenyddol — Wedi ysgrifenu yn helaeth fel Golygydd—Cynnorthwyo ei gydgenedl—Enghraifft —Ei gyd—lenorion—Darlithiwr poblogaidd—Gwahanol farnau am y ddarlith—Darlithwyr enwog—Dr. ar y blaen—Gystal darlithiwr a phregethwr—Gwella i bregethu—Defnyddio darlunleni—Ffraeth—Ei bynciau—cynnwysdremiau—"George Muller a'r amddifaid"—"War in the East"— America—Darlithio yn Saesneg fel y Gymraeg—Barn am dano fel darlithiwr—Chwedlau digrif—Hyspysiad—Talu £4,000 o ddyledion capeli trwy ei ddarlithiau—Yn boblogaidd fel pregethwr pan yn ieuanc—Er nid yn un o'r pregethwyr mwyaf, etto yn boblogaidd—Pregethwr syml—Y Telegraph—Ei nerth yn yr hanesyddol—Cymmeriadau Beiblaidd—Dammegion— Pregethu cyfres o bregethau yn fynych—Y Beibl yn enghraifft—Rhai o'i sylwadau doniol—Ei ofal am ei bregethau.

N mha gyfeiriad bynag yr edrychwn ar wrthddrych YN ein Cofiant, ymddengys fel pe yn tyfu ac yn myned yn fwy yn barhaus. Yn y cyssylltiadau a nodasom yn flaenorol gwelwn ef yn ei fawredd dihafal, fel yn ymgodi uwchlaw pawb. Ymddangosai yn mhlith ei gydlafurwyr fel Saul yn mhlith y proffwydi. Fel llenor, darlithiwr, a phregethwr etto, gellir dweyd am dano mai nid y lleiaf ydoedd yn mhlith hyd y nod dynion o dalent ac athrylith. Nid yn fynych y ceir dynion hyd y nod y rhai mwyaf yn rhagori mewn llawer o bethau. Eithriadau yn y byd meddyliol ydynt y rhai a ragorant mewn mwy nag un peth. Rhaid hyd y nod i'r eithriadau wrth ganolfaniad y galluoedd ac ymlyniad mewn llafur ac ymdrechion. Y mae anhawsderau ar bob llwybr dyrchafiad, ac os am gyrhaedd y pinacl, rhaid cyn cychwyn benderfynu myned drostynt, heibio iddynt (yr hyn nid yw yn hawdd ei wneyd), neu,