Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/214

Gwirwyd y dudalen hon

fyned drwyddynt. Ac os am ragori mewn mwy nag un cyfeiriad, rhaid dyblu y diwydrwydd a grymusu y penderfyniad, oblegyd bydd yr anhawsderau yn naturiol yn fwy, ac yn sicr, yn amlach. Dyn yn rhagori mewn llawer o bethau oedd y Dr., ac y mae y ffaith ei fod wedi gallu gwneyd hyn, yn profi yn eglur pa fath un ydoedd. Nodwedd amlwg ynddo oedd diwydrwydd; hebddi, nis gallasai fod wedi gwneyd cymmaint o waith yn mhob cylch. Elfen gref arall a'i nodweddai oedd Penderfyniad. Heb hyn etto nis gallasai fod wedi gorchfygu cymmaint a chynnifer o rwystrau ar bob llwybr a deithiodd. Meddiannai feddwl uwchraddol, onide nis gallasai fod wedi gosod ei nod mor uchel ag y gwnaeth mewn cynnifer o gyfeiriadau pwysig. Arnododd yn uchel fel gweithiwr yn mhlith ei bobl, ei eglwys, a'i enwad. Gwnaeth yr un modd fel gwleidyddwr a chymdeithaswr, a bu yn llwyddiannus i argraffu ei enw yn ddwfn, ac mewn llythyrenau breision yn y byd llenyddol. Yr oedd ei lafur yn yr ystyr hwn yn enfawr. Synir ni gan luosogrwydd ac helaethder ei gynnyrchion llenyddol, yn neillduol pan ystyriwn y gwaith aruthrol gyflawnid ganddo mewn cylchoedd pwysig ereill. Nid oedd yn esgeuluso ei ddyledswyddau fel pregethwr a gweinidog er ymroddi at lenyddiaeth. Cadwodd y pwlpud yn uchel, a'i eglwys yn ofalus hyd y diwedd, er cymmaint a wnai gydag ysgrifenu ar wahanol bynciau i wahanol newyddiaduron, cyhoeddiadau, a chofnodolion y wlad, ac yn neill- duol i'r papyrau oeddynt dan ei ofal golygyddol. Nis gellir dweyd fod y Dr. yn awdwr enwog, oblegyd nid yw y llyfr mwyaf a gyhoeddodd erioed yn uwch ei bris nâ rhyw swllt neu ddeunaw ceiniog. Credwn mai y llyfr mwyaf a gyhoedd ydoedd yr un ar Fedydd, yr hwn a ddygodd allan mewn atebiad i'r diweddar Barch. W. Edwards, Heolyfelin, yn y ddadl fawr a bythgofiadwy a fu rhyngddo a'r Dr. ar yr Ordinhad o Fedydd. Hefyd, cyhoeddodd lyfryn bychan tlws ar Hanes Eglwys Calfaria yn 1862, yr hwn a vai yn Juwbili Eglwys Calfaria, Aberdar, at yr hwn yr ydym wedi gwneyd cyfeiriadau mynych yn y gwaith hwn, ac wedi dyfynu yn helaeth o hono yn gyssylltiedig ag hanes Calfaria a'r Enwad yn y Dyffryn. Cyhoeddodd hefyd hanes gweithrediadau Eglwys Calfaria hyd y flwyddyn 1886, yr hwn a eilw yn Trem. Cyhoeddodd hefyd anerchiad byr at Eglwys Calfaria, a chofres gyflawn o holl aelodau a swyddogion yr eglwys dan ei ofal yn 1887. Hwn ydoedd