"Ymdrechir ymdrin â'r pwnc yn y drefn ganlynol :-Pregeth I. Y Beibl yn Llyfr Duw, Psalm cxxxviii. 2, 'Oblegyd ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll.' Pregeth II. Y byd heb y Beibl. Ephesiaid ii. 12, 'Heb obaith genych ac heb Dduw yn y byd.' Pregeth III, Y Beibl yn cwrdd ag angen dyn. Psalm cxix. 9, 'Pa fodd y glanha llanc ei lwybr ? Wrth ymgadw yn ol dy air di.' Pregeth IV. Dylanwad y Beibl ar ddynolryw. Esiah lv. 11, 'Felly y bydd fy ngair, yr hwn a ddaw o'm genau: ni ddychwel ataf yn wag; eithr efe a wna yr hyn a fynwyf, ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o'i blegyd.' Pregeth V. Dyogeliad y Beibl. Matthew xxiv. 35. ' Nef a daear a ânt heibio, eithr fy ngeiriau I nid ânt heibio ddim.' Pregeth VI. Cyssondeb ac unoliaeth y Beibl. Actau iii. 18, ‘Eithr y pethau a ragfynegodd Duw trwy enau ei holl broffwydi, y dyoddefai Crist, a gyflawnodd efe fel hyn.' Pregeth VII. Y Beibl yw unig safon crefydd. Esiah viii. 20, 'At y gyfraith, ac at y dystiolaeth; oni ddywedant yn ol y gair hwn, hyny sydd am nad oes oleuni ynddynt.' Pregeth VIII. Ein dyledswydd i ddarllen y Beibl. Ioan v. 39, 'Chwiliwch yr Ysgrythyrau, canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol; a hwynthwy yw y rhai sy'n tystiolaethu am danaf fi. Pregeth IX. Crist yn ganolbwnc y Beibl. 1 Corinthiaid ii 2. Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio.' Pregeth X. Y Beibl yn y dyfodol. Esiah xi. 9, Canys y ddaear a fydd lawn o wybodaeth yr Arglwydd, megys y mae y dyfroedd yn toi y môr.'"
Nid yw yr enghraifft uchod ond un o lawer.
Yr oedd yn gwybod daearyddiaeth Gwlad Canaan yn neillduol o dda. Gellid meddwl fod y cwbl wedi ei argraffu ar ei gof. Pan yn siarad am dani i egluro ei faterion, gallai un farnu ei fod wedi byw ynddi erioed. Cyfeiriai ati a desgrifiai hi mor naturiol nes o'r braidd nad oedd y bobl yn gweled y lleoedd a'r trigolion, ac yn teimlo eu bod yn nghanol yr amgylchiadau. Nid annghofiwn yn rhwydd ei bregeth ragorol a elwir gan y bobl, "Pregeth yr asyn bach." Darluniai y ddinas, Bethphage, Bethania, a'r wlad o gwmpas, yn nghyd â'r dyrfa, yn y modd mwyaf tarawiadol. Actiai Petr ac Ioan yn myned i bentref Bethphage i ymofyn yr asen a'r ebol, ac adroddai yr hyn a ddychymygai efe a siaradent â'u gilydd ar y ffordd. "Ofnai Petr," ebai efe, fwy nâ Ioan. Yr oedd confidence mawr gan Ioan yn ei feistr. Nid oes dim fel dyn yn meddu cariad mawr i'w wneyd yn ymddiriedwr mawr yn ngwrthddrych ei gariad. Yr oedd sefydlawgrwydd ac ymddiriedaeth gref yn Ioan; ond nid felly Petr: yr oedd efe yn fwy wit-wat—dim cym-