Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/229

Gwirwyd y dudalen hon

aelwydydd crefyddol. Gawn ni ddweyd fod merched bach America yn debyg iddi hefyd?" Dywedai gyda y fath nerth a dylanwad weithiau nes peri i bawb deimlo yn awyddus bod fel y "Llances Fach." Traddodai bregeth y "Llances" unwaith mewn dyffryn poblogaidd, yn yr hwn y mae gweinidog, yn awr canol oed, yn enwog am ei ddiwydrwydd a'i weithgarwch gyda gwahanol achosion cymdeithasol, ac mewn gwahanol gyfeiriadau yn nheyrnas yr Arglwydd Iesu Grist. Cymhwysai ei nodiadau at ofal am y plant a llafur gyda hwy. Dywedai y gwyddai am weinidog yn awr yn anterth ei nerth, wedi ac yn gweithio yn galed fel aelod ar wahanol fyrddau lleol ac addysgol, a gyda gwahanol gymdeithasau buddiol. Yr oedd hefyd yn llanw amryw swyddau pwysig yn yr enwad, ac yn aelod gweithgar ar bob pwyllgor braidd yn y cyfenwad; ond meddyliai ef fod y gwaith a wnelai gyda'r plant bach yn ei Ysgol Sul a'i eglwys yn fwy na'r cwbl. Y brawd, meddai, a ddarluniaf yw gweinidog parchus ac anwyl yr eglwys fedyddiedig yn Nhreorci. Yr oedd y Dr. yn pregethu mewn cwrdd mawr yn Nghwmparc, cangen o eglwys Treorci, ac heb fod yn neppell oddiyno. Y mae amryw o'i bregethau ereill, megys y "Corn Bach," "Y Garreg Fach," Garreg Fach," "Y Talentau,' "Y Jubili," "Elias ar Carmel," "Y Deml," (pregeth fawr y casgliad) "Cyfiawnhad," &c., y carem gyfeirio yn helaeth atynt; ond rhaid ymatal, gan fod yn bossibl y cyhoeddir cyfrol o'i ddewis bregethau gan ei anwyl ferch, Miss Emily Price. Y mae miloedd o'i bregethau ar gael, wedi eu cadw yn ofalus ganddo, ac y mae wedi eu cofnodi oll yn ei ddyddlyfrau, fel y gellir gwybod pa bryd ac yn mha le y pregethwyd hwynt ganddo. Arweinia hyn ni yn naturiol at ei ddyddiaduron a'i goflyfrau, y rhai a gant ein sylw yn fyr yn y bennod nesaf.