PENNOD XVII.
EI DDYDDLYFRAU.
Arrangement—Platt—Gofal am y pethau lleiaf—Irving a Wellington—Y bancer a'r hatlingau—Adeg dechreuad ei gofresau—Note—Enghraifft o'i ddyddlyfr—Ei daith yn Siroedd Caerfyrddin a Phenfro—Cyfeiriad Myfyr Emlyn—Cyfansymiau ei ymrwymiadau blynyddol a'i nodion—1857—1863—1864—1867—1870—1873—1874—Afiechyd y Dr. 36 o Sabbothau heb bregethu—Nodiad eglurhaol—1880—Bedyddio dau fyfyriwr o Drefecca—Diwedd yr ail lyfr—Cyfres pregethau y plant—Eu pynciau—Y Nadolig cyntaf gartref am 35 mlynedd—Dyddiad olaf ei gronicliad—Y geiriau olaf ar y cofnodlyfr—Olion cryndod ei law yn ei ysgrifen yn y blynyddau 1885 ac 1886—Manylder a threfnusrwydd yn deilwng o efelychiad.
Arrangement or order, Nature's first law, digests the matter that industry collects. It means doing things methodically, a habit of saving time to all, and without which no business of any size could be carried on.—J. Platt.
MEWN trefnusrwydd rhagorai y Dr. yn fawr. Yr oedd ganddo ef ei gynlluniau gyda phob peth yr ymgymmerai efe â'i weithio allan—y pethau lleiaf yn gystal â'r pethau mwyaf. Cymmer Irving sylw neillduol, yn ei hanes o fywyd Wellington, o fanylder rhyfeddol ei arwr gyda phethau bychain. Yr oedd ei gyfriflyfrau a'i ddyddiaduron yn dangos pa mor ofalus ydoedd o bethau bychain. Gallai esiampl Wellington yn yr ystyr hwn roddi gwersi buddiol i'r rhai hyny a ddirmygant yr hyn a alwant yn petty details. Mae miloedd o'r fath fodau i'w cael yn mhob gwlad. Nid oes dim yn deilwng o sylw yn eu barn hwy os na fydd yn cael ei ddwyn yn mlaen ar raddfa eang. Nid ymostyngant at y ceiniogau—dim ond y punnoedd sydd yn werth eu sylw hwy; ond y dyogelaf yn ei waith, a'r mwyaf llwyddiannus bob amser yn ei ymgymmeriadau, ydyw yr hwn sydd yn "ffyddlawn yn y lleiaf." Dywedai bancer (Mr. Green, Cymro pur ac aelod ffyddlon yn eglwys y Bedyddwyr yn Castle Street) wrthym yn Llundain yn ddiweddar, "You would be surprised, Sir, to know how careful