Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/236

Gwirwyd y dudalen hon

Mawr gael ei ogoneddu, ac eneidiau lawer gael eu cadw. I Ti, O Dad, boed y gogoniant oll. Amen.

THOMAS PRICE.

"Rhag. 31, 1870.

Ar ddiwedd 1873, ceir:—

"Gallaf etto godi yma fy Ebenezer, diolch i Dduw, a chymmeryd cysur. Cefais y fraint o fod mewn 873 o gyfarfodydd heb fethu unwaith trwy afiechyd nac unrhyw achos arall. Y clod yn gryno ar ben y Duw da trwy Iesu Grist fy Arglwydd. Rhag. 31, 1873.

THOMAS PRICE.

Bu ei ymrwymiadau am 1874 yn 737, a chydnebydd yn yr un modd ddaioni ei Dduw.

Yn y flwyddyn 1875, cawn, gyda nodiadau tebyg i'r rhai a nodasom, yr hyn a ganlyn:—

"Yn ystod y flwyddyn nid wyf wedi darlithio o gwbl nac wedi bod ar y Board of Guardians, ond wedi talu mwy o sylw i'r achos da gartref. I Dduw pob gras y rhoddaf yr holl glod yn enw ei anwyl Fab. Amen.

THOMAS PRICE.

Diolch am iechyd corfforol a bywiogrwydd meddwl, y mae y Dr. wedi ei wneyd hyd yn hyn, a chydnabod Duw yn ddaionus am nerth a gallu i weithio a chwrdd â channoedd o ymrwymiadau a dyledswyddau pwysig; ond drwg genym am y cyfnewidiad a gymmerodd le yn 1876. Nid yw wedi cofnodi dim o Mai 28, 1876, hyd Ionawr iaf, 1877. Ond rhydd nodiad cyffredinol am y cyfnod y bu mewn cystudd, yr hwn sydd fel y canlyn:—

NODIAD EGLURHAOL.—Ar y Sul, Mai 28, 1876, yr oedd dyn ieuanc o Heolyfelin yn pregethu yn Nghalfaria boreu y Sul, ac yr oeddwn i bregethu yn Nghwmdar yn y prydnawn. Pregethu a thori bara gyda y Saeson yn y nos. Yr oeddwn yn wael iawn y pryd hwn. Aethum i Lundain dydd Llun, Mai 29, 1876, a gwelais Dr. Canton, a dranoeth cwppiwyd fi yn drwm iawn. Bum yn Llundain dan gyfarwyddiadau y meddygon Dr. Canton, Dr. Muchison, a Dr. Beddles. Bum yn Llundain o Mai 29 hyd Mehefin 8. Ar Mehefin 7, 1876, daeth Emily i Lundain, ac aeth â mi i ffwrdd ar Mehefin 8 i'r Mumbles. Bum yn y Mumbles o Meh. hyd Gorphenaf y 4ydd. Yna ar Gorphenaf 4 cymmerwyd fi o'r Mumbles i Lundain. Gorphenaf 8, cymmerasom ein lle i fyny yn Forest Hill. Buom yno hyd Awst 9, 1876: y dydd hwn ym.