Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/238

Gwirwyd y dudalen hon

Joseph," "Moses pan yn blentyn," &c., &c. Y mae wedi croniclo y cwbl yn fanwl am danynt, gan nodi y lleoedd gwahanol y pregethwyd hwynt ganddo. Cynnwysa y llyfr hwn gofnodion am dros 13 mlynedd, sef o Ionawr iaf, 1867, hyd Tachwedd 27ain, 1880. Rhif ei ymrwymiadau cyhoeddus, fel y nodasom, Ionawr iaf, 1867, oeddynt 6,859; ond gwelwn eu bod wedi cyrhaedd, erbyn Rhagfyr 31, 1880, i'r swm aruthrol o 16,701. Mae ei nodiad ar ddechreu ei drydydd dyddlyfr, fel y canlyn:—

ROSE COTTAGE,
NOVEMBER, 1880.

This book is a continuation of a book similar in shape and size as this. Therefore, the two Books have chronicled 16,589 sermons or Public Addresses.

Cofier nad yw y 16,589 yn cyrhaedd yn mhellach nâ Thachwedd y 27ain, tra y mae y 16,701 yn cyrhaedd hyd ddiwedd y flwyddyn.

Am Nadolig, 1880, cawn a ganlyn:—

Rhag 25. Dydd Nadolig, gartref am y tro cyntaf am 35 mlynedd, heb fod yn rhwym mewn unrhyw drafodaeth gyhoeddus."

Ei nodiad ar ddiwedd y flwyddyn a ddarllenir fel hyn:—

"I Dduw a'r Tad y byddo'r holl ddiolch. Trwy ei nerth Ef a'i diriondeb Ef yr wyf wedi cael y fraint o gymmeryd rhan mewn 1,082 0 wahanol gyfarfodydd gartref ac oddicartref, am yr hyn y teimlaf yn wir ddiolchgar.

Ion. 1af, 1881.

THOMAS PRICE.

Y dyddiad olaf y mae wedi croniclo ei weithrediadau arno yw Mai 16eg, 1886. Y ddau beth olaf ar ei lyfr yw "Cyfeillach Calfaria," "Cor Bach." Y mae ei holl gyflawniadau cyhoeddus wedi cyrhaedd dros yr 20,000. gwrs, y maent yn amrywiol iawn, fel y gwelir oddiwrth ei nodion, oblegyd gosodai bob peth i lawr yn eglur. Hyd y flwyddyn 1884 ysgrifenai y Dr. yn eglur, sefydlog, a digryn; ond y mae yn gwaethu yn fawr yn 1885 ac yn 1886: mae olion cryndod rhyfeddol. Hefyd, y mae y meddwl yn colli, oblegyd ceir llawer o eiriau aneglur a brawddegau anorphenedig; ond pa ryfedd pan gofiom fod ei feddwl mawr