PENNOD XIX.
NODIADAU AR Y DOCTOR.
Gan y Parchn. W. Harris—Dl. Davies—W. Williams, Rhos—J. George—Y diweddar Rufus Williams—Y diweddar F. Morgan, Cwmbach—Dr. Thomas, L'erpwl—W. Morris, Treorci—Mynegiad Coleg Pontypwl—Proffeswr Edwards—Dr. Todd—R. E. Williams (Twrfab), Ynyslwyd—Mr. D. R. Lewis, Aberdar.
MEDDYLIASOM mai nid anmhriodol oedd gwahodd nifer o hen gyfeillion y Dr., y rhai a gawsant lawer o gyfleusderau i gymdeithasu ag ef, ac i'w adnabod yn dda, i ysgrifenu ychydig o'u hadgofion am dano; ac er ein bod wedi derbyn addewid oddiwrth amryw y buasai yn dda genym fod wedi cael eu hysgrifau, am y rhoddai hyny olwg gyflawnach ar wahanol agweddau cymmeriad Price, rhaid i ni foddloni ar a theimlo yn ddiolchgar am adgofion dyddorol y brodyr canlynol, yn nghyd â'r nodiadau buddiol gawsom o gyfeiriadau ereill. Gan fod cyfeiriadau yr ysgrifenwyr at y manau y daethant i gyssylltiad â'r Dr., yn nghyd â'r amgylchiadau neillduol a gymmerasant le, yr ydym yn eu rhoddi i mewn yn agos yn gywir fel y derbyniasom hwy. Bydd fod pob un yn dywedyd yr hanes yn ei ffordd ei hun yn ei wneyd yn llawer mwy dyddorol a swynol i'r darllenydd. Rhoddwn y llythyrau fel y daethant i'n llaw gan nad oes genym reol neillduol i'w dylyn:—
GAN Y PARCH. W. HARRIS, HEOLYFELIN.
"Y cof cyntaf genyf fi am Dr. Price, pan oeddwn yn lled ieuanc, yw iddo ef ac Evan Thomas, Casnewydd, gael galwad i ddyfod yn gydweinidogion i Nebo, Penycae, a'r cylch. Perthynai i Nebo y pryd hwnw amryw gangenau eglwysi ar hyd y dyffryn, megys Cendl, Brynhyfryd, (Cymraeg a Saesneg), a Victoria; golygai y frawdoliaeth yn Nebo gymmeryd y Cwm rhag blaen, a'r brodyr hyn i gydweinidogaethu a chyd-lafurio yn a thrwy y gwahanol leoedd. Yr oedd amcan yr eglwys yn dda, ond ni fuont lwyddiannus i'w gyrhaedd. Dywedwyd y pryd hwnw fod y Dr. yn foddlawn derbyn yr alwad, ond nad oedd Mr. Thomas yn