hun allan yn llwyr o ran nerth corff, meddwl, a defnyddioldeb, cyn iddo farw. Bydd rhai farw yn nghanol eu nerth, bywiogrwydd, a defnyddioldeb—cymmerir hwynt ymaith megys â llifeiriant; ond ereill ydynt yn byw ar ol i'w gallu a'u defnyddioldeb ddarfod. Llafuriodd y Dr. yn fawr gydag achos crefydd.
Pan ddaeth efe i Aberdar yr oedd y dyffryn yn ymagor ac yn ym. ddadblygu yn mhob cyfeiriad—gweithfeydd newyddion yn cychwyn drwy y cwm, a'r bobl wrth y cannoedd o bob man yn dylifo i'r lle. Yn eu mysg yr oedd torfeydd o ddynion crefyddol, fel yr oedd yr achosion crefyddol yn cynnyddu ac yn myned rhagddynt gyda chyflymdra rhyfeddol: yr oedd y fechan yn myned yn fil a'r wael yn genedl gref,' megys ar unwaith. Yr oedd yr amgylchiadau hyn yn Rhagluniaeth Duw yn peru llwyddiant mawr yr achosion crefyddol, fel yr oedd galw mawr am gapeli a lleoedd newyddion i addoli Duw; a'r Dr., yntau, yn llawn bywyd a gwaith, yn cyfateb y lle a'r amgylchiadau yn rhagorol; ac felly, aeth y gwaith rhagddo yn fawr.
Yr oedd y Dr o dymher boeth, wyllt, danllyd, a bu hyny yn ddiau yn achos gofid iddo mewn rhai amgylchiadau; ond er yn boeth a gwyllt, deuai i'w le yn fuan: byddai yn ystorom sydyn ac enbyd weithiau, ond buan y byddai tawelwch mawr. Gwnai gamsyniadau pwysig ambell waith, fel Pedr: torai glust a gofynai dân, ond buan y gwelai y bai, a gofidiai am dano. Yr oedd o yspryd maddeugar: ni chadwai deimlad câs ac annymunol yn ei fynwes; ni roddai ‘le i ddiafol,' ac ni fachludai yr haul ar ei ddigofaint. Rhoddai driniaeth enbyd weithiau, wedi hyny byddai y cwbl drosodd; pan gyfarfyddai â'r cyfaill hwnw dranoeth, gellid meddwl na fu erioed ddim rhyngddynt. Yr oedd yn gyfryw ddyn ag nas gallai neb teilwng deimlo yn anngharedig tuag ato. Yr oedd yn rhagori yn mhell, yn ei ddiffygion, ar lawer iawn yn eu rhagoriaethau. Yr oedd yn hynod barod ac ewyllysgar i wneyd daioni, a daioni mewn llawer ffordd. Nid oedd eisieu ei gymhell i ddaioni—yr oedd yn awyddus iddo: gwnai yn rhwydd, llawen, heb rwgnach na dannod. Yr oedd y nodwedd hon yn un neillduol ac amlwg iawn ynddo. "Yr oedd yn un o barch a dylanwad mawr unwaith yn Nghymmanfa Morganwg, ac yn un o werth mawr a gwasanaeth neillduol yn ei chynnadleddau. Byddai ei ddylanwad weithiau yn dra pheryglus, ac yn agored i wneyd cam dirfawr ag ambell frawd neu achos, pan na fyddai efe wedi ei ddeall yn iawn, neu wedi ei gamarwain gyda golwg arno. Ond y rhan amlaf byddai ei ddylanwad er daioni, a phob amser felly, os byddai efe yn deall y mater yn briodol. Os teimlodd rhai ei ddylanwad weithiau yn anffafriol, teimlodd rhai ei ddylanwad yn fendithiol. Ni waaeth niwed o fwriad i neb; ond gwnaeth ddaioni i luoedd o galon iach. Bellach, y mae wedi ein gadael. Teimlwyd yn chwithig ar ei