ychwanegai yr hen foneddiges yn hyfforddus a charedig neillduol, a thynai y plant a'r bechgyn ieuainc ar ei ol yn lluosog; ond nid oes sicrwydd gyda golwg ar hyn, oblegyd ni chrybwyllai y Dr. byth am hyny pan yn son am ddyddiau ei faboed. Cwynai yn fynych am ei anfanteision boreuol i gael addysg ac i gyrhaedd gwybodaeth; arferai ddweyd fod hyny wedi bod yn anfanteisiol iddo drwy ei oes, er mor ddysglaer y bu.
Treuliodd Thomas Price ei ddyddiau bachgenaidd yn ei fro a'i ardal enedigol, sef dyffryn prydferth a ffrwythlawn yr Wysg. Ac fel y dywed gwyddonwyr wrthym, mae dau allu cryf ar waith yn ffurfiad cymmeriad a nodwedd pob person unigol, sef rhienyddiaeth, golygfeydd allanol, ac amgylchedd. Y mae dylanwad golygfeydd allanol, yn mhlith y rhai y treulir dyddiau boreuol, yn gryfach ar y meddwl nag y tybir yn fynych. Y meddwl yw sylfaen y cymmeriad, ac fel y mae y meddwl yn cael ei feithrin, y mae y cymmeriad yn araf, ond etto yn sicr, yn cael ei ffurfio, ac y mae gan argraffiadau allanol y dylanwad mwyaf ar y rhan foreuol o'r bywyd. Dywed y Parch. J. Spinther James, A.C., yn ei draethawd bywgraffyddol galluog i'r anfarwol Cynddelw, am hyn fel y canlyn:"Credai Čynddelw yr athrawiaeth hon, ac ystyriai ei hun yn ddysgybl Mynydd Berwyn, a gwelir yn y dysgybl debygolrwydd neillduol i'w athraw, mewn cryfder, amrywiaeth, ac agwedd wasgaredig." Dichon mai y rheswm am fod caniadau y bardd Albanaidd, Robert Burns mor llawn o ansoddebau a desgrifiadau bugeiliol yw, iddo fod yn blentyn natur. Y fodd y meddylddrychau ar fryniau rhamantus ac yn nyffrynoedd prydferthion ei wlad. Gwelir hefyd yr un dylanwad ar gymmeriadau y tri wyr enwog, Coleridge, Wordsworth, a Southey. Dygwyd hwy i fyny yn mhlith prydferthion natur, ac y maent, fel plant natur, wedi rhagori mewn naturioldeb a phrydferthwch eu cymmeriadau a u cynnyrchion dihafal. Fel y cyferbyna rhai haneswyr fel hyn sefyllfan genedigaeth rhai dynion o enwogrwydd â bywyd neu gymmeriad can- lyniadol y cyfryw, felly, gyda phriodoldeb arbenig, y gallwn ninau ar y naill law gyferbynu brasder tir dyffryn prydferth a rhadlonrwydd a chyflawnder afon fawr yr Wysg i haelionusrwydd calon gariadlawn a chymmeriad haelionus y bachgen gruddgoch a gafodd enedigaeth a chodiad ar ei glanau; ac ar y llaw arall amrywiaeth golygfeydd a ffrwythlondeb neillduol yr ardal hon, yn nghyd â mawrfrydigrwydd