mae o feddwl cyflym a pharod tu hwnt i'r cyffredin, o barabl rhwydd a derbyniol hynod, ac o galon ddewr a gwresog. Mae wedi derbyn ar. wyddion amryw weithiau o barch a chydnabyddiaeth mewn ffordd o roddion ac anrhegion am ei lafur mawr a diflin, gan ei eglwys ei hun ac eglwysi ereill yn y dref y mae yn byw ynddi. Y mae yn gwneyd cymmaint o waith, a chymmeryd pob peth gyda'u gilydd ag un deg yn y Dywysogaeth. Diolch i Dduw am gymmaint o nerth a iechyd iddo.
* * Graddiwyd ef yn ddiweddar yn A.M., Ph.D., gan un o brif Athro— feydd Germani, sef yr University yn Leipsic, Saxony." (Gweler Hanes Athrofeydd y Bedyddwyr, &c., yn y flwyddyn 1863, tudalen 70—71.)
GAN Y DIWEDDAR BARCH. J. MORGAN, CWMBACH.
Marwolaeth Dr. Price, Aberdar.—Hwn oedd ddyn a gerid gan bawb yn y lle. Dyn a wnaeth lawer o ddaioni yn Aberdar oedd y Parch. Ddr. Price, gweinidog enwog gyda'r Bedyddwyr yn Nghalfaria, ac yn adnabyddus drwy holl Gymru, Lloegr, a llawer o'r America. Er y gwroldeb oedd ynddo, a'r egni di-ildio i gario ei amcanion i ben, darfu iddo yntau ildio i angeu hwyr ddydd Mercher, Chwefror 29ain diweddaf, yn ei dy ei hun, Rose Cottage, yn y dref hon. Nid oes neb yn gallu cofio nifer y brwydrau ymladdodd o blaid Ymneillduaeth yn y lle hwn flynyddoedd yn ol. Nid enwad, ond cyfiawnder, cydraddoldeb, a chwareu teg i bawb, oedd ei brif nod drwy ei oes. Gosodir yntau dydd Mawrth nesaf, y 6ed cyfisol, yn ei fedd—y ty rhagderfynedig i bob dyn byw. Heddwch i lwch ein hanwyl frawd."
Bu Mr. Morgan yn gymmydog agos i'r Dr. am flynyddau meithion, ac felly, yr ydym yn gosod pwys ar ei farn uchel ef am dano. Ymddangosodd yr uchod yn mhlith pethau ereill yn ngohebiaeth Mr. Morgan yn y Tyst a'r Dydd am Mawrth y 8fed, 1888.
Yn y Tyst am yr wythnos ganlynol ysgrifenodd y Parch. Ddr. J. Thomas, L'erpwl, yn ei nodion, "Ymylon y Ffordd," am y Dr. fel y canlyn :—
"Yr oedd yn chwith genyf weled yn y Tyst am yr wythnos hon, gan fy hen gyfaill dyddan Gohebydd Aberdar, y grybwylliad am
FARWOLAETH DR. PRICE, ABERDAR.
Gwyddwn ei fod wedi gwaelu yn fawr y blynyddau diweddaf; ond pan welais ei fod wedi marw, daeth tòn o hiraeth drosof. Deugain mlynedd