crefyddol oedd. O na: un o gredwyr mwyaf diffuant ein gwlad oedd; teyrngarwr yn nheyrnas nefoedd ydoedd; ymorweddai ar ei hyd ar Graig yr Oesoedd; iaith ei enaid ac argyhoeddiad dyfnaf ei fodolaeth oedd, Mi a wn i bwy y credais.' Er hyny, nid oedd am gadw yr Efengyl y tu fewn i furiau culion capel; nid oedd am gyfyngu ei bendithion i Jerusalem. Teimlodd nerth anwrthwynebol yr 'Ewch' awdurdodol, ac hyd y gallodd. aeth â'r Efengyl i lawer lle nad enwid Crist
"Ennillodd safle enwog yn Nghymru fel planwr eglwysi. Nid ydym yn gwybod am un yn Nghymru a wnaeth gymmaint ag ef yn y modd hwn. Gwyddom am amryw a weithiasant yn ardderchog yn y cyfeiriad hwn, ond saif ef yn dywysog yn eu plith. 'Llawer un a weithiodd yn rymus, ond efe a ragorodd arnynt oll.' Bendith fawr i Aberdar oedd cael Dr Price yno yn ngwawr ei ddydd. Y person amlycaf yno am ddeugain mlynedd oedd. Bu yno ser, ond dyma'r haul; bu yno gor. nentydd, ond dyma'r afon; bu yno weithwyr, ond hwn oedd 'y gweithiwr' Efe fu y gallu symmudol yn mhob mudiad yn Aberdar. Yn mhob bwrdd a sefydlwyd yno. bu ef yn aelod ac yn amlwg ynddynt. Nis gallai efe fod yn guddiedig mwy nâ'i Feistr
Yn nghylch mawr ei enwad hoff yn Nghymru, llanwodd ef y lle amlycaf yn mhob cangenwaith. Yn ei gymmanfa, undeb, colegau, cym- deithasau. a llengoedd symmudiadau yr enwad yn Nghymru, gellir bod yn sicr iddo ef am 30 mlynedd gario pen trymaf y gwaith. Gweithiwr oedd, a gweithiwr annghymharol-gweithiwr yn mhob cyfeiriad possibl. Fel trefnwr, dinesydd, gwleidyddwr, llenor, cymdeithaswr, cynnadleddwr, darlithiwr, gweinidog. pregethwr, ac ochrau ereill ei gymmeriad, nid ydym yn gwybod am un dyn yn hanes y Genedl Gymreig yn yr hwn y cydgyfarfyddai cynnifer o ragoriaethau a Dr. Price.
Bu am flynyddoedd lawer yn unig gynnrychiolydd Cymreig ar bwyllgorau ein Cymdeithas Geñadol, y Gymdeithas Genadol Gartrefol a Gwyddelig, y Gymdeithas Gyfieithadol, Bwrdd Addysg y Bedyddwyr, Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon, &c.; ac yn ddiddadl, nis gallesid cael un mwy cymhwys i'n cynnrychioli nag ef. Yr oedd ei barodrwydd llafar, ei graffder darganfyddol, ei ddoethineb naturiol, ei ymarferolrwydd meddyliol, yn ei gymhwyso mewn modd uchraddol i fod yn gynnorthwy mawr i'r genadaeth a'r pwyllgorau hyn. Safai yn uchel iawn yn marn pawb o'i gydweithwyr yn y cyfryw gylchoedd. Enghraifft o hyny oedd y rhan a gymmerodd yn nghyfarfodydd cy. hoeddus Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon. Mae areithiau Dr Price yn amryw o'r cyfarfodydd hyn yn Llundain, Liverpool, Bristol, &c., yn sefyll yn mhlith y pethau ardderchocaf ynddynt yn nghof pawb gawsant y fraint o fod yn bresenol.