neb erioed yn llawio ystadegaeth gyda'r fath ddeheurwydd ac eneiniad. Anadlai fywyd i esgyrn sychion ystadegaeth, ac ymddangosai yn ddedwyddolach gydag amsereg a rhifnodau nag a wna llaweroedd gydag adnodau y Beibl. Pan yr oedd yn tynu tua therfyn ei araeth, ymddangosodd Spurgeon ar un o rodleoedd y capel ; canfydd- odd y Dr. ef, a gwaeddodd mewn llais clir a chlochaidd, 'The great sun has made his appearance; the star must go into the shade.' Gwaeddodd Spurgeon yn ol, fel yr oedd yn gweithio ei ffordd tua'r pwlpud, ' Go on, go on, brother Price.' 'I am with brother Oncken at Hamburg; I shall not be long before I fìnish,' meddai y Dr. mewn atebiad. 'Go on, go on, brother,' atebai Spurgeon eilwaith, a chan belled ag yr oeddem yn gallu deall, nid oedd 'Go on' Mr. Spurgeon ond adlais o deimlad cyffredinol y dorf fawr.
Tro hynod arall adgofir genym ydyw un a gymmerodd le yn un o gynnadleddau cyfarfodydd blynyddol Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon, a gynnahwyd yn Nghapel Dr. Maclaren yn Manchester, yn 1872. Siaradodd amryw o brif bregethwyr yr enwad yn y gynnadledd hon, megys Nathaniel Haycroft a Chown; ond pan oeddynt yn llefaru, yr oedd cryn lawer o sisial yn myned yn mlaen. Pan gododd y Dr. ar ei draed, llonyddodd y cwbl, a gallesid, ys y dywedir, glywed pin bach yn disgyn, ac yr oedd pawb megys wedi cael eu hoeho wrth ei wefusau. Y pwnc dan sylw ar y pryd oedd hawliau y Baptist Union Education Fund ar gyfraniadau helaethach oddiwrth yr eglwysi yn gyfifredinol, ac yr oedd rhai o'r siaradwyr wedi achwyn ar gan lleied a gyfrenid at y drysorfa o Gymru, ac wedi awgrymu na ddylasai Cymru gael cymmaint o gynnorthwy, os dim, yn ngwyneb ei chyfraniadau bychain. Twymodd gwaed Cymreig y Dr. gymmaint wrth glywed y pethau a ddywedwyd am Gymru, nes iddo draddodi un o'r areithiau mwyaf angerddol a boddus i galon Cymro ag oedd yn bossibl i gael ei gwrando, ac un a effeithiodd i ennill cydymdeimlad sylweddol i 'Little Wales.' Gwnaeth y Dr. lawer yn ei oes yn y cyfeiriad hwn, a llwyddodd i gael cynnorthwy i laweroedd o'r drysorfa uchod i'w cynnorthwyo i roi addysg i'w plant.
"I Dduw y byddo'r clod am godi y Dr. ddinodedd cymharol i'r fath enwogrwydd, ac am ei wneuthur o gymmaint gwasanaeth i Aberdar, i'w enwad, ei gi.ned!, a'i wlad."
GAN MR. D. R. LEWIS, ABERDAR.
Llawer ac amrywiol yw yr adgofìon sydd genyf am fy niweddar hoffus frawd a chyfaill, Dr. Price. Gan y deallaf fod amryw foneddigion yn