ysgrifenu nodiadau arno o wahanol gyfeiriadau, cyfyngaf fy hun yn fwyaf neillduol i ychydig sylwadau arno fel cymdeithaswr neu aelod o'r gwahanol gymdeithasau cyfeillgar. Cefais gyfleusderau lawer i'w adnabod yn dda yn y cyfeiriad hwn, a theimlaf yn ddedwydd i ddwyn tystiolaeth ei fod yn un o'r aelodau mwyaf galluog a pharchus a fuont yn dal perthynas â'r cymdeithasau cyfeillgar yn ein gwlad erioed. Nis gwn am neb a wnaeth fwy iddynt a throstynt. Yr oedd bob amser yn arwain, yn neillduol gyda materion pwysig, y gwahanol urddau y perthynai iddynt, ac yn cymmeryd y rhan drymaf o'r gwaith fyddai â'i amcan at ddiwygio a llesoli ein hurddau anrhydeddus. Yr oedd ganddo lygad craff i weled peryglon yn ymddangos megys o bell, a meddai gymhwysder neillduol a medr dihafal i fyned drwy a gorchfygu anhawsderau. Rhedai pawb ato am gyfarwyddiadau, ac yn gyffredin byddai pob achos yn ddyogel yn ei law. Ystyrid ef yn rhagori fel cyfreithiwr yn nglyn ag achosion y cymdeithasau cyfeillgar. Ymgynghorai cyfreithwyr ymarferol ag ef yn nghylch y rheolau, ac ar rai pwyntiau dyrus a phwysig, a byddai yn alluog braidd yn ddieithriad i gyfeirio allan y llwybr priodol i'w ddylyn.
Gallem yn hawdd nodi amryw enghreifftiau o'i weithrediadau yn y cyfeiriadau a nodwn. Cofus genym am gyfrinfa unwaith ag iddi wraig y gwestty (gweddw) yn drysoryddes, ac yn ei llaw £42 o arian y gyfrinfa. Aeth y drysoryddes i anhawsderau, a 'thorodd,' fel y dywedir. Yn ffodus i'r gyfrinfa, yr oedd dau foneddwr yn rhwymedig fel meichnïon iddi am £20; ond sut i sicrhau y £42 oedd y cwestiwn. Aeth dau frawd o'r gyfrinfa at Mr. Davies, Maesyffynnon, i ofyn ei gyfarwyddyd. Atebodd yntau na allai eu helpu yn yr achos, ac na wyddai am neb allai eu cyfarwyddo yn ddyogel yn y mater ond Dr. Price, Aberdar. Aethant at y Dr., ac wedi adrodd yr helynt wrtho, ysgrifenodd nodyn i'w gymmeryd i gyfreithiwr enwog yn Merthyr, Mr. Frank James. Gweithredodd hwnw yn ol cyfarwyddyd Price, a llwyddwyd i gael yr holl arian i'r gyfrinfa.
Yr oedd cyfrinfa arall mewn amgylchiadau cyffelyb—y gwesttywr wedi myned yn fethdalwr, ac yn cael ei werthu allan. Ymgynghorwyd â Price yn nghylch arian y gyfrinfa oedd yn meddiant y gwesttywr fel ei thrysorydd. Rhoddodd y Dr. ei farn a'i gyfarwyddyd, ond gwrthodai y trysorydd dalu am, meddai efe, nad oedd y gyfrinfa wedi ei chofrestru. Aeth Price ar unwaith i'w fyfyrgell, cafodd hyd i reol y dosparth, a dangosodd ynddi mewn llythyrenau breision enw ac ardystiad J. Tidd Pratt. Dangoswch yr enw hwn i'r trysorydd,' meddai Price, 'ac os na thâl, rhaid iddo ddyoddef y canlyniadau. Gwnawd fel y cyfarwyddai y Dr., a thalwyd yr arian yn ddioedi.
"Yr oedd dau foneddwr yn Aberdar wedi myned yn feichnion i