yr oedd ei wallt yn ddu; ond yn y blynyddau diweddaf yr oedd wedi britho [a myned yn hollol wyn]. Yr oedd ei ruddiau yn llawn a gwridog, ei lygaid fel eiddo'r eryr, ei barabl yn groew a soniarus, ei gyfarchiad yn wresog a chalonog, ac wrth edrych ar ei
Dalcen mawr ysplenydd,
A'i wen deg fel huan dydd,
yr oedd yn anmhossibl peidio teimlo fod calon ddidwyll, wrol, dyner, ryddfrydig yn curo yn ei fynwes. Mewn gair, mewn cynneddfau a theithi meddyliol, ar y cyfan yr oedd Dr. Frice yn ddyn mawr iawnyr oedd yn ei ddydd yn un o brif gewri y genedl, ac yn un o brif arweinwyr y bobl."
Cydgyfarfyddai ynddo, i raddau tra arbenig, yr anhebgorion i wneyd dyn da a chymmydog hynaws a charedig. Yr oedd bob amser yn gall, cariadus, parod, galluog, a chymmwynasgar. Fel dyn," meddai ei hen gydfyfyriwr enwog, y Parch. Evan Thomas, Casnewydd, "yr oedd Dr. Price yn un true iawn, ac mewn gair meddai fwy o individuality nag un dyn yn Nghymru." Nid oedd terfyn ar ei garedigrwydd. Rhoddodd lawer o help i ddynion ieuainc Aberdar, a llawer o fanau ereill, i sicrhau swyddi pwysig a safleoedd uchel yn y byd. Bu yn garedig i bawb, a gweithiodd yn galed ac yn anhunangar (unselfish) dros gannoedd mewn gwahanol ffyrdd. Llafuriodd yn neillduol o galed a bu o gynnorthwy sylweddol yn amser y cholera yn 1849; mewn ystyr, peryglai ei fywyd, gweithiai ddydd a nos, a gwariodd lawer o arian yn y cyfnod twymynol hwnw i gysuro pobl ac i leddfu trueni y dyoddefwyr. Cafodd allan gyffeiriau at y geri marwol. Hyspysodd hwnw yn y gwahanol newyddiaduron, a rhoddodd werth llawer o aur o hono yn rhad i deuluoedd isel eu hamgylchiadau. Bu yn help gannoedd o weithiau i deuloedd a fuasent, o bryd i'w gilydd, mewn trafferthion cyfreithiol yn Aberdar a manau ereill. Yr oedd yn gyfreithiwr enwog, fel yr ydym wedi lled awgrymu. Mynychai Lys yr Heddgeidwaid braidd bob wythnos yn Aberdar, yr hwn a eisteddai bob dydd Mawrth. Yn foreu dydd Llun gwelid degau weithiau o bobl yn cyfeirio at y Rose Cottage ar wahanol negesau, ac yr oedd yn ddigon o waith i Emily a Sarah Price ateb y drws. Byddai appeliadau am gynnorthwy cyfreithiol mor aml a dim, ac yn aml yr oedd gan y Dr. gynnifer o glients yn y Police Court ag un cyfreithiwr, er nad oedd yn gyfreith-