Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/265

Gwirwyd y dudalen hon

iwr trwyddedig. Meddai ddylanwad mawr gyda yr hedd— ynadon, yn neillduol Mr. Rhys Hopkin Rhys. "Allow me, Mr. Rhys, to say one word respecting the client or prisoner," oedd hi yn aml gan y Dr., ac yr oedd bob amser yn cael sylw a gwrandawiad. Daeth un person oedd wedi lladrata at y Dr. i ymofyn ei ddylanwad. Beth wyt ti yn ymofyn?" gofynai y Dr. iddo. "Eich help yfory yn y Police Court, Syr." Beth wyt ti wedi ei wneyd?" "Lladrata, Syr," meddai y person. "Fachgen y d——l,” meddai Price, "'oes arnat ti ddim cywilydd d'od at weinidog yr Efengyl i ofyn iddo dd'od i'r court i roi character i leidr?" "Yr oeddwn yn meddwl, Syr," meddai y bachgen, “eich bod yn rhy garedig i ballu, ac os deuwch chwi byddaf yn sicr o gael dod yn rhydd." Barn Mr. Rhys Hopkin Rhys am y Dr. yw hyn:— "Dr. Price is too kind by half. He always gives a kind helping hand to all in trouble, and all are his friends, and should any of them appear before us in court, they are with the Dr. all jolly good fellows, or rela— tives to some of his members, or attendants of his chapel. He has always a kind word to say for all."

Dywedai Mr. Thomas Joseph am dano:—

"Yr oedd Dr. Price yn ddyn da iawn—dyngarol iawn. Nid oedd byth yn gofyn pwy na pheth oedd neb, ond gwneyd yn ewyllysgar i bawb yn ddiwahaniaeth. Yr oedd yn garedig iawn i fyfyrwyr y colegau pan fuasent yn dyfod heibio i gasglu neu yn galw i'w weled. Rhoddodd lawer 2s. 6ch. yn nwrn y myfyriwr, yn neillduol pe buasai wedi cael allan ei fod yn fachgen da ac mewn amgylchiadau cyfyng. Elai yn gyffredin â'r myfyriwr allan gydag ef, a phan ymadawai yr oedd braidd bob amser yn ei hebrwng yn garedig. Yr oedd hefyd yn garedig iawn i'r plant; rhoddodd gannoedd o geiniogau i'r plant, ac ennillai eu sylw a'u parch yn fawr iawn. Yr oedd yn ddyn oedd yn tynu sylw yn mhob man. Pe buasai dyn hollol ddyeithr gydag ef am ychydig amser buasai yn sicr o ddweyd ar ol ymadael, mai rhyw ddyn annghyffredin ydoedd."

Dywedai y Parch. W. Jones, Philadelphia:—

"Nid oedd y Dr. braidd yn myned i unrhyw le heb ei fod yn cael sylw a pharch neillduol. Fel hen gymmydog, yr wyf wedi meddwl llawer am hyn, ac wedi cadw llygad arno yn yr ystyr hwn. Cofus genyf