fod yn Mrawdlys Abertawe un tro, ac yr oedd Justice Lush ar y fainc. Yn sydyn daeth Price Aberdar i'r llys, ac eisteddai ar yr oriel bron yn y pen pellaf iddi Yn fuan gwelodd Lush ef, a gofynodd i'r dadleuydd aros—ei fod yn gweled person yn y neuadd y carai gael yr anrhydedd o'i gael i eistedd yn ei ochr. Galwodd ar y Dr, ac aeth yntau yn mlaen i'r gadair nesaf at y barnwr. Tynodd hyn sylw mawr yn y llys, y dref, a'r wlad yn gyffredinol. Yr un modd pan ymddangosai mewn pwlpud neu ar lwyfan, yr oedd yn cael sylw uniongyrchol, oblegyd yr oedd rhywbeth tra chommanding yn ei ymddangosiad a'i ystum. Yr oedd wedi dysgu parchu ei hun, ac felly, perchid ef gan bawb a'i had waenent. A phan y perchid ef, nid annghofiai y caredigrwydd. Yr oedd yn neillduol o ymlynol wrth ei hen gyfeillion. Nid oedd gwneyd cyfeillion newyddion yn peru iddo annghofio a gadael yr hen rai. Cymmerai drafferth i alw heibio iddynt os buasai yn myned i le y byddai hen gyfeillion yn byw ynddo, a derbynid ef yn llawen, siriol, a charedig ganddynt bob amser."
Wele ni yn frysiog wedi nodi allan rai o'i riniau a'i ragorion fel dyn; ond hyd yma, nid oes gair wedi ei ddweyd neu ei ysgrifenu am ei ddiffygion, a dychymygwn glywed y darllenydd yn gofyn, A oedd Price yn ddyn perffaith? A oedd ef mewn rhagoriaethau moesol uwchlaw i ddynion yn gyffredin? Atebwn, Nac ydoedd. Yr oedd yn yr ystyr hon mor gyffredin a neb, oblegyd meddai yntau ar ei ddiffygion, ac yn wir, gwnaeth gamsyniadau pwysig, fel pawb ereill, yn ystod ei fywyd gwerthfawr. Ond gofynwn ein cenad, bellach, i gladdu ei holl ddiffygion a'i feiau, gan ei fod ef wedi ei osod o ran ei gorff yn myd y meirw. Dywedai y Parch. W. Williams, Rhos, Mountain Ash, wrth gladdu hen ddiacon parchus, ar ol siarad llawer am ei ddaioni a'i ragoriaethau:—"Yr oedd llawer o ddiffygion yn y brawd, er cystal ydoedd. Nid oes neb ond un wedi ei eni yn ddifai. Gwnaeth y brawd hoff gleddir heddyw lawer o ddrwg: nis gallesid dysgwyl yn wahanol," meddai, oblegyd wedi y cwymp y ganwyd ef." Felly y gallwn ddweyd am Price; gan iddo gael ei eni wedi y cwymp, ni allesid dysgwyl perffeithrwydd ynddo.
Un tro, yr oedd yr athronydd Cristionogol, y Parch. R. Hughes, Maesteg, yn claddu brawd da o'i eglwys, ac wedi dweyd llawer am ei ddaioni a'i rinweddau Cristionogol, dywedodd yn ei ffordd naturiol ei hun, Wel, mae Mr. Hughes (meddai rhywun) wedi dweyd llawer am rinweddau y brawd ymadawedig, ond nid ydyw wedi son un gair am