agos â'r Gymdeithas hon, heb blygu i lawr a bendithio Duw am godi y fath gymmeriadau, ac erfyn am gymhorth i ddylyn eu hol mewn ffydd a gweithredoedd. O!'r fath wersi a gawsid wrth fyfyrio bywydau tebyg i Fuller, Sutcliffe, Ryland, Pearse, ac ereill a ddylynasant fel cynnorthwywyr y Gymdeithas; neu ddylyn bywydau, llafur, lludded, a llwyddiant Carey, Marshman, Ward, Chamberlain, Yates, a'u brodyr yn y Dwyrain, a Knibb a Burchell, yn y Gorllewin. Mae hanes dynion o'r fath hyn yn llawn o wersi addysgiadol i ieuenctyd ein cynnulleidfaoedd (cymmeradwyaeth).
Y mae cynnydd ein Cymdeithas hefyd yn llawn o ddyddordeb i'n pobl ieuainc. O! fel y bu ein Tad nefol yn profi ffydd sylfaenwyr y Gymdeithas hon yn ystod y saith mlynedd cyntaf o'i bodolaeth. Yn ystod yr adeg hirfaith hon, bu gweithgarwch a chaledi y cenadon heb un llwyddiant ymddangosiadol, mor bell ag yr oedd argyhoeddiad eneidiau yn myned; etto, aethant yn y blaen gyda dyfalbarhad ffyddiog yn Nuw, gan adael y canlyniadau yn ei law gwbl—alluog Ef. Er na fu neb dychweledigion am saith mlynedd, yr oedd y Gymdeithas wedi helaethu ei therfynau i raddau mawr, gan ei bod wedi danfon allan amryw genadon Ewropeaidd yn ychwanegol, rhai o ba rai a adawsant y fuchedd bresenol yn bur fuan. Ond yn y flwyddyn 1800—y cyntaf yn y ganrif bresenol—yr oedd genym yn India 4 cenadwr Ewropeaidd, 1 capel bychan, 1 eglwys fechan, 1 Ysgol Sabbothol, ac 1 ysgol ddyddiol—oll yn gyfyngedig i'r cenadon a'u teuluoedd. Profodd y flwyddyn hon yn un fythgofiadwy yn hanesiaeth y Genadaeth, yn gymmaint ag mai ar y 17eg o Fawrth, 1800, y tynwyd y llen gyntaf o'r Beibl Bengaelaeg drwy y wasg. O!'r fath olygfa darawiadol oedd gweled y teulu bychan wedi cydgwrdd yn eu capel, a William Carey yn gosod y llen oedd newydd ei gorphen yn wlyb o'r wasg ar fwrdd y cymundeb, gan ei chyflwyno i'r Arglwydd, fel rhan o'r hyn oedd i ganlyn, a diolch iddo am yr holl drugareddau oedd wedi gael, a gweddio am ei gymhorth a'i arweiniad yn y dyfodol. Yr ydym yn gwybod heddyw i ba raddau y mae y weddi hono wedi ei hateb. Mae ein cenadon wedi cael y fraint o fod yn alluog i roddi Gair Duw i'r pagan mewn hanner cant o ieithoedd a thafod—leferydd. Mae hyn ar ei ben ei hun yn synfawr i'n golwg, ac yn galw am ein diolchgarwch mwyaf trylwyr i Dduw, a'n gwerthfawredd twym-