Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/278

Gwirwyd y dudalen hon

galon o'r dynion fuont yn offerynau yn ei law i ddwyn y fath waith godidog oddiamgylch (cymmeradwyaeth). Oddiar hyny mae ein cenadon wedi bod yn abl i drosglwyddo i'r pagan dros filiwn o gyfrolau o Air Duw, ac yr ydym yn awr yn danfon i ffwrdd o wasg y Gymdeithas tua 45,000 o gyfrolau o'r Beibl yn flynyddol. Wrth edrych dros y ffeithiau hyn, pwy all ddiystyru dydd y pethau bychain? (cymmeradwyaeth). Tri diwrnod cyn terfyniad y flwyddyn 1800, dygwyddodd amgylchiad pwysig arall, yr hwn a lawenhaodd galonau ein dynion da. Rhagfyr 28ain, 1800, sancteiddiodd William Carey ddyfroedd y Ganges drwy drochi ynddi y cyntaf a ddychwelwyd i'r ffydd Gristionogol, sef Christnu Paul; a phan yr oedd y bedyddiedig yn dyfod i fyny o'r dwfr, llefarodd un o'r cenadon ar y lan y geiriau canlynol: "To-day is broken the first link in the chain of caste, and there is no power on earth or in hell that can reunite it." Yr oedd y dywediad hwna yn ffaith, ac yn fath o broffwydoliaeth—y naill y dydd hwnw, a'r llall wedi ei wireddu hyd y dydd hwn, gan nad ydyw caste yn India byth wedi hyny wedi cyrhaedd ei sefyllfa gyntefig (cymmeradwyaeth). Wedi hyny, mae ein cenadon wedi derbyn miloedd i Eglwys y Duw byw, llawer o'r rhai sydd wedi myned at eu gwobr, tra y mae eu rhifedi ar y ddaear yn cyflym gynnyddu o hyd. Beth raid fod llafur y brodyr ffyddlon a anfonwyd allan i ddwyn oddiamgylch ganlyniadau dedwydd y dydd heddyw? Gadewch i ni gymmeryd un gipolwg ar agwedd y maes y foment bresenol. Mae genym yno 74 o genadon Ewropeaidd, 300 o oruchwylwyr brodorol, 20 o weinidogion brodorol yn Jamaica, trysorfa y Calabar Institution, a 4 o sefydliadau er addysgu dynion ieuainc i waith yr Arglwydd. Ac wrth son am Jamaica, yr hon sydd yn blentyn anwyl i'r Gymdeithas hon, gallwn grybwyll fod genym yno gannoedd o eglwysi yn cael eu cario yn mlaen yn drefnus a rheolaidd, yn cynnwys cyfanswm aelodol o 30,000, gydag ysgolion a lle ynddynt i 12,000 neu 15,000 o blant. Y mae y Gymdeithas yn awr yn llanw sefyllfaoedd pwysig yn India, Ceylon, China, Affrica, Jamaica, Hayti, Trinidaad, Bahamas, Ffrainc, a Norway, tra y mae drysau newyddion yn parhau i agor, y rhai y dylasai gymmeryd meddiant o honynt, ond metha o herwydd angen haelioni mwy oddiwrth yr eglwysi.

Gallasem etto gyfeirio sylw ein pobl ieuainc at amgylchiadau pennodol o ofal Duw, am ei ddaioni tuag at y Gym-