Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/280

Gwirwyd y dudalen hon

Ty y Cyffredin, ail-adeiladwyd y capeli a'r ysgolion mewn modd rhagorach, a gwelodd y diafol pan yn rhy ddiweddar ei fod wedi gwneuthur camsyniad dirfawr wrth losgi capeli y Bedyddwyr yn Jamaica (uchel gymmeradwyaeth). Ni annghofir byth y flwyddyn 1840 gan lawer o honom, pryd y cymmerodd Knibb-apostol mawr y Gorllewin-un-ar-bymtheg o genadon newyddion drosodd i Jamaica. O! y fath olwg ogoneddus oedd hono i ni pan yn ffarwelio â hwynt yma ar yr afon, ac yn edrych am y tro diweddaf ar wynebpryd gwrol Knibb, yr hwn oedd yn ddychryn i ormeswyr, ond yn gyfaill calon i'r caethion truenus. Dywedaf etto fy mod yn ofni yn ddirfawr ein bod yn ol o wneuthur ein dyledswydd tuag at ein pobl ieuainc, trwy esgeuluso eu gwneuthur yn gynnefin â ffeithiau o'r natur hyn, perthynol i sefydliad, cynnydd rhyfeddol, a'r llwyddiant bendigedig (dan fendith Duw) sydd wedi dylyn Cymdeithas Genadol y Bedyddwyr (cymmeradwyaeth).

Un gair arall o barth yr hyn yr ydym ni yn Nghymru yn ei wneyd mewn ffordd o gynnorthwy i'r Gymdeithas. Mae yn bleser genyf ddywedyd fod ein heglwysi yn gyffredinol yn teimlo dyddordeb dwfn yn y Gymdeithas hon, er mae yn wir fod rhai yn ei hesgeuluso, ond y mae y mwyafrif yn gwneuthur yr hyn a allant er dwyn y gwaith da i ben. În ystod yr un flynedd ar ddeg yn cynnwys o 1857 i 1867, mae yr eglwysi Cymreig wedi cynnyddu yn fawr yn eu cyfraniadau (clywch, clywch). Yn 1857, cyfanswm y cyfraniadau oddiyno (heblaw legacies) oedd £1,312 15s. 5¼c., ac y mae y swm hwn wedi cynnyddu mor raddol yn ystod yr un flynedd ar ddeg, fel y cyfranasant yn 1867 £2,360 4s. 10½c., yr hwn swm, o'i gymharu â'r unrhyw yn 1857, sydd yn dangos cynnydd o £1,047 19s. 5½c., neu 80 y cant; neu yn gwneuthur cyfanswm yn ystod yr un flynedd ar ddeg oddiwrth eglwysi na allant ymffrostio yn eu cyfoeth, ond sydd yn ddiarebol dlawd, o £20,998 17s. 8¾c. At hyn, goddefer i mi ychwanegu yr ychydig legacies sydd wedi eu rhoddi yn yr un cyfnod, yn cyrhaedd £209 8s. 5c., yr hyn a wna y cyfanswm o Gymru dlawd yn £21,308 6s. 1¾c. Yn awr, dywedir wrthym ei bod yn angenrheidiol i'r eglwysi gynnyddu 12 y cant at eu cyfraniadau presenol cyn y gall y Gymdeithas dalu ugain swllt yn y bunt, a dymunem dalu hyny. Wel, bydd i mi a'm brodyr yma gymmeryd arnom i gymmeradwyo i'r eglwysi Cymreig—a diolch i Dduw, hwy wnant unpeth a gymmeradwywn iddynt yn Nghymru