gwneyd casgliadau, a 28¼, y cant heb wneyd hyny; yn Scotland casglodd 47⅛ y cant o'r eglwysi, a 57⅞ y cant a esgeulusasant wneyd hyny; ac yn yr Iwerddon casglodd 45⅙ y cant, ac ni wnaeth 54⅝ y cant ddim. Wrth gymmeryd yr holl eglwysi yn y Deyrnas Gyfunol, cawn fod 55½ y cant wedi casglu, a 44½ y cant heb wneyd hyny y flwyddyn ddiweddaf. Nid wyf yn gwybod a fyddai i mi bechu wrth deimlo yn falch o Gymru dlawd wedi y cwbl: tlawd fel yr ydym, ymddangoswn yn ffafriol er hyny, wrth ein cymharu â rhanau ereill o'r deyrnas. Yn awr,tybier fod y 1,038 eglwysi na wnaethant gasgliad yn gwneyd yn ol cymhariaeth yr hyn a wneir gan eglwysi tlodion Cymru, byddai genym y canlyniad canlynol:—Casgla 360 o eglwysi yn Nghymru y swm o £2,125 15s. 2g.; yna, byddai i'r 1,038 eglwysi, os byddai iddynt roddi o gwbl, gasglu y cyfanswm o £6,129 5s. 4¾c. Yn awr, y mae colli y swm yna yn golled fawr mewn ystyr arianol, ond y mae y golled foesol i'r eglwysi yn llawer mwy: collant y pleser a'r anrhydedd o fod yn gydweithwyr â Duw; amddifadant eu plant o'r pleser o gynnorthwyo yn y gwaith da o achub eneidiau; mewn gwirionedd, dygir plant yr eglwysi hyn i fyny fel paganiaid. Dywedai yr enwog Andrew Fuller unwaith ei fod ef a'r eglwys wedi eu darostwng i'r fath raddau, fel yr oedd pob mwynhad crefyddol wedi eu gadael; ond dechreuasant ar y gwaith cenadol, a daeth cyfnewidiad llwyr dros yr eglwys a'r gweinidog; gweithient yn galonog dros y paganiaid yn ngwledydd pellenig y byd, a bendithiai Duw eu heneidiau yn helaeth gartref. Y mae angen ymdrech unol arnom yn yr anturiaeth hon, yn gystal a chydweithrediad holl eglwysi—oll i wneyd rhywbeth yn flynyddol dros y Gymdeithas. Ofnaf fod rhai o'n brodyr henaf wedi annghofio, a gall fod rhai o'n brodyr ieuangaf heb glywed na darllen hanes cyfarfod cenadol a gynnaliwyd yn Jamaica gan gynnulleidfa o negroaid. Gwnawd y cyfarfod i fyny yn gyfangwbl o ddynion duon; a chan ei fod wedi ei alw yn nghyd yn rheolaidd ac amserol, dygid pobpeth yn mlaen mewn trefn a gweddeidd-dra. Er nad oedd ganddynt ryw benderfyniadau llafur-fawr a hir—eiriog, etto yr oeddynt yn hollol uniongred; canys pasiwyd ganddynt y tri phenderfyniad canlynol:—1. Bydd i ni oll roddi rhywbeth. 2. Bydd i ni oll roddi fel y galluogwyd ni gan Dduw. 3. Bydd i ni oll roddi yn llawen. Wedi pasio y tri phenderfyniadau hyn, dechreuasant yn y man eu gosod mewn
Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/285
Gwirwyd y dudalen hon