Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/288

Gwirwyd y dudalen hon

ogaeth Aberhonddu, magwyd fi yn eich plith chwi, dechreuais fy ngyrfa grefyddol yn eich plith, ac er pan wyf wedi gadael eich tref, nid wyf wedi gwneyd dim i'w gwarthruddo. Meddyliais, ar ol saith mlynedd ar hugain o absenoldeb, y gallwn dd'od yn ol yn anrhydeddus i ofyn i chwi fy nychwelyd fel eich cynnrychiolydd i'r Senedd. (Cymmeradwyaeth.) Yr wyf fi, a llawer ereill, wedi teimlo er's amser bellach ei bod yn warth ar Gymru, am nad yw, o'r 32 aelodau y mae wedi ddanfon i'r Ty Cyffredin, wedi danfon un Annghydffurfiwr Cymreig erioed. (Cywilydd). Nid oes genym yn awr yn y Ty Cyffredin un aelod, yr hwn yn deg sydd yn cynnrychioli teimladau crefyddol wyth rhan o naw o bobl Cymru. (Bloeddiadau, 'Cywilydd,' 'Yr ydych yn iawn.') Yn yr etholiad cyffredinol diweddaf, danfonodd Lloegr ac Ysgotland 40 o aelodau Ymneillduol i'r Ty, tra y danfonodd yr Iwerddon 40 o Babyddion i gynnrychioli teimladau y bobl Wyddelig i'r Senedd; ond Cymru, er ei gwarth oesol, ni ddanfonodd un Annghydffurfiwr i'r Senedd newydd. Onid yw yn amser i ni ddeffroi, a symmud ymaith y gwarthnod sydd yn gorphwys ar Gymru fel gwlad Ymneillduaeth? (Cymmeradwyaeth.) Wel, yr wyf wedi dyfod i roddi cyfle i etholwyr Aberhonddu wneyd felly, wedi methu eich darbwyllo i wahodd arall a gwell dyn. Yr wyf yn cynnyg fy hun fel y dirprwywr goreu allwn gael. (Cymmeradwyaeth a chwerthiniad.) Wedi i mi glywed am farwolaeth eich diweddar barchus aelod, gwyliais eich amgylchiadau gyda phryder mawr, gan obeithio y byddai i ryw foneddwr o ddylanwad lleol, a golygiadau haelfrydig a rhyddgarol, megys eich maer, ddyfod allan; ond cefais fy siomi yn hyn. Danfonodd dau foneddwr eu hanerchiadau allan, ond nid oedd un o honynt, feddyliaf, yn adlewyrchu golygiadau rhan fawr o etholwyr annybynol y fwrdeisdref hon. Gadewch i ni am funyd edrych ar yr anerchiadau sydd wedi eu dwyn allan ganddynt. Cymmerwn anerchiad Iarll Aberhonddu. Mae y paragraph cyntaf yn deilwng o deimlad caredig ei Arglwyddiaeth tuag at y diweddar aelod; yr ail a'r trydydd ydynt yn unig hen ymadroddion ystrydebol (stereotyped) sydd wedi eu defnyddio ganwaith mewn anerchiadau o'r blaen; ac y maent mor ddiystyr ag ydynt o gyffredin i bob dyn sydd yn darllen y papyrau. Sylwedd yr anerchiad yw, y bydd iddo roddi cymhorth diysgog ac annybynol i lywodraeth a theimlad Arglwydd Palmerston. Yr oedd gwladlywiaeth dramor llywodraeth Arglwydd Palmerston yn dda,