PENNOD II.
DECHREUAD EI FYWYD CREFYDDOL.
Heb dueddiad crefyddol hyd ei brentisiaeth—Ysgol y Methodistiaid—Gwahoddiad i weled bedydd—Y Parch. B. Williams—Argraffiadau cyntaf ar feddwl Price—John Stuart Mill—Bedydd yn ddieithr i Price—Bedyddio ei fam—Ei feistr yn Wesley—Ei feistres yn Fedyddwraig—Williamsiaid Ship Street—John Evans—Dylanwad gwragedd—Ennill Price at y Bedyddwyr—Price yn y gyfeillach—Ei fedyddiad—Dygwyddiad hynod—Bedyddio pedwar pregethwr Cymdeithasfa Lenyddol Gristionogol—Price yn dechreu llefaru yn gyhoeddus—Methu—Grym penderfydiad—Cyfarfodydd gweddio—Yn ei ardal enedigol Anerchiadau—Arferion daionus—Dyledswydd aelodau crefyddol.
HYD amser ei brentisiaeth, mae yn debyg nad oedd Thomas Price wedi dadblygu un tueddiad i geisio crefydd, er ei fod yn ymhyfrydu mewn darllen a mynychu yr Ysgol Sabbothol. I ysgol y Methodistiaid yr oedd yn myned yn amser cyntaf ei brentisiaeth; ond ar ryw dro, cafodd wahoddiad gan gyfaill iddo ag oedd yn aelod yn Mhorthydwr, i fyned i weled yr ordinhad o fedydd yn cael ei gweinyddu yn Maesyberllan. Y cyfaill hwnw oedd Mr. James Williams, Cashier, gynt o Gwmdar, yn awr o Taylorstown, yr hwn sydd yn aelod ffyddlawn a diacon parchus yn eglwys y Bedyddwyr yn Mhontygwaith. Sylwer pa galyniadau dymunol sydd yn tarddu o wahoddiadau caredig i weled a chlywed yr hyn sydd dda. Cydsyniodd Price, ac aethant gyda'u gilydd heb fawr o feddwl ganddo ef am gael ei ddal gan yr olygfa. Y Parch. B. Williams oedd yn gweinidogaethu yr adeg hono yn Maesyberllan, ac efe oedd yn pregethu yno y diwrnod hwnw. Yr oedd y dyrfa mor fawr fel mai ofer oedd meddwl am ei chynnwys yn yr addoldy. Yma," meddai y Dr., pan yn adrodd yr hanes gyda theimladau dwys, "safai Mr. Williams dan yr ywen a ymgangenai yn llydan dros y fynwent, a'i destyn oedd, 'Y gwyliedydd, beth am y nos?" Gall y rhai a glywsant Mr. Williams ar ei uchel fanau ddychym-