drigai ynddi, a hyny er adeiladu esgobaeth newydd Litchfield. Sir Gaernarfon a drethwyd yr un fath er mwyn Caerlleon Gawr, tra esgobaethau newyddion ereill a gyfoethogwyd ar draul Deheudir Cymru. Yn y Gogledd, gosodwyd degymau amryw o'r plwyfi cyfoethocaf er cynnal colegau Seisnigaidd; yn y Deheudir, gosodwyd degymau y rhan amlaf i'r lleygwyr. Mae yn Swydd Forganwg yn unig ddim llai na deg plwyf yn rhodd Deon a Chapter Gloucester.' Rhaid i ni gofio hefyd y ffaith mai y personau pennodedig i'r esgobaethau Cymreig ydynt Saeson (cywilydd), a'r esgobion Saxonaidd hyn nid ydynt byth yn annghofio eu cyssylltiadau teuluaidd pan yn gwneuthur pennodiadau i'r bywoliaethau goreu yn y Dywysogaeth. Yna y mae yn canlyn fod swm mawreddog o'r nawdd gwladwriaethol y tri chan' mlynedd diweddaf wedi cael ei roddi i'r Saeson, ac felly yn amddifadu trigolion Cymru o'u teg a'u teilwng ran o gyfoeth yr Eglwys yn eu gwlad eu hunain. (Llais: 'Yr wyf yn rhyfeddu nad ydynt yn aros gartref'). Pan y gallant gael digon o hufen yn Nghymru, ni wnant yfed llaeth dihufen gartref. (Bloedd o chwerthin, a tharan o guriadau)."
Yna aeth y Dr. yn mlaen i ddangos pa fodd yr oedd y nawdd (patronage) hwn yn cael ei ranu rhwng Esgobion St. Asaph, Bangor, St. David's, Llandaf, Deoniaid a Chapters y tair esgobaeth, Archddiaconiaid Aberhonddu a Llandaf, Provost a Fellows Coleg Eton, Coleg yr Iesu (Rhydychain), Coleg Crist, Esgobion Lincoln, Chester, Lichfield, Gloucester, a Brystau, yn nghyd a Deoniaid a Chapters Gloucester a Brystau. Heblaw y swyddau cadeiriol, yr oedd 400 o fywoliaethau at eu llaw, 330 o'r rhai oedd yn rhodd pedair o esgobaethau Cymreig. Yna dywedodd:— "A wna rhyw gyfreithiwr Philadelphaidd yn yr ystafell hon ddywedyd wrthyf pa sawl Cymro sydd yn mhlith y llu a enwyd? (Mr. Bowden: 'You aint going into none of 'em, are you?' Llefau: 'Trowch ef allan '). Nid yw ein hysgolion gwaddoledig mewn gwell sefyllfa (yr wyf yn cyfeirio yn awr at ryw ddwy neu dair blynedd yn ol). Tystiai Syr Thomas Phillips, ryw gymmaint o amser yn ol, fod Coleg Crist yn Aberhonddu, 'o'i sefydliad i lawr hyd at ein hamser ni, wedi bod yn warthrudd i'r Eglwys, yn gystal a'r Wladwriaeth.' Yr un fath y gellir dweyd am ysgolion Bangor a Llanrwst; i'r cyntaf or cyfryw y mae swm blynyddol o £500, ac i'r olaf y y swm bob