blwyddyn yn cael ei roddi o £600, y rhai, ar y dechreu, a sefydlwyd er lles plant dynion tlawd;' ond cafodd plant y dynion tlawd eu hyspeilio o'u hiawnderau, ac y mae yr eiddo tuag atynt wedi myned i gyfoethogi sefydliadau Eglwysaidd nad ydynt yn meddu un cydymdeimlad tuag at Gymru na'i dynion tlawd. Felly, yr wyf yn credu fod eisieu, ac y dylai pennodiad Seneddol gael ei wneuthur, er edrych i mewn i'r camdriniaethau hyn—ymchwiliad manwl a didwyll, a brofai yn fendith i'r Eglwys, ac a fyddai yn weithred o gyfiawnder tuag at offeiriaid gweithgar Cymru.
"Ond etto, gan gyfeirio at y Reform Bill, credaf mai dau brif beth y Bill nesaf fydd helaethu sail y gynnrychiolaeth, ac ail drefniad eisteddleoedd Seneddol. Y rhai hyn, wrth bob tebyg, fydd prif gynnwysiad y Bill; ac yr wyf yn falch i glywed fod y Llywodraeth yn barod i sefyll neu syrthio yn ol y Bill.
"Caniatewch i mi, wrth derfynu, eich rhybuddio i wylied pob symmudiad o eiddo y rhai sydd yn promoto y Bill newydd. Byddwch yn effro, onite, ar ryw foreu braf, chwi ellwch ddeffro, a chael allan fod bwrdeisdref Aberhonddu wedi ei hamddifadu o'i braint bresenol o anfon aelod i'r Senedd. Rhaid i un o dri pheth, yn fy nhyb I, ddyfod i ben. Rhaid i drefydd Crughywel, Llanfair-yn-muallt, Glasbury, a Threcastell, gael eu huno, a'u hychwanegu at Aberhonddu, neu bydd tref Aberhonddu yn sicr o gael ei huno â'r wlad, ac yna chwi gewch anfon un aelod, yn lle dau, fel yn awr; neu, y mae yn bossibl i Aberhonddu gael ei gadael allan o'r gyfres, er rhoddi lle i'r trefydd mawrion a chynnyddol (yr un fath a Staleybridge), yn ngwahanol ranau o'r deyrnas. Byddwch yn mhob achos ar eich gwyliadwriaeth, a gofalwch am lesiant eich tref; chwiliwch yn fanwl bob rhan (draft) o'r Reform Bill; anfonwch ddeiseb er uno y trefydd a enwyd, a gofalwch gael y dyn goreu er eich cynnrychioli yn Nhy y Cyffredin."