Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/300

Gwirwyd y dudalen hon

(2 Samuel vi. 17). Mae yn ffaith bwysig i ni ei chofio na fu yr arch ddim yn ol yn y Tabernacl wedi iddi gael ei chymmeryd allan gan feibion Eli, a'i dygiad hi gan y Philistiaid i dŷ Dagon. Yr oedd y Tabernacl yn aros yn Uchelfa Gibeon; a phan gymmerwyd yr arch i Jerusalem, trefnodd Dafydd fod nifer o offeiriaid i gyflawnu gwasanaeth crefyddol yn y lle neu y babell newydd; ac fe bennodwyd nifer arall o offeiriaid i gadw y gwasanaeth yn y blaen yn yr hen Dabernacl yn Gibeon (gweler a darllener i Chron. xvi. 37—40; hefyd, 2 Chron. i. 3—6).

Yr un a godwyd yn yr anialwch sydd i gael ein sylw heddyw. Mae yma dri neu bedwar o bethau rhagarweiniol:

1. Ty i Dduw oedd hwn (Ex. xxv. 8).—Mae yr Arglwydd mewn modd arbenig am gael tý iddo ei Hun: "Gwnant i mi gyssegr.

2. Yr oedd hyn yn cyfateb i amgylchiadau y bobl.—Byw mewn pebyll yr oeddynt hwy, ac mae Duw yn dyfod i'w plith, ac yn myned i fyw mewn pabell. Pan ddaeth Israel yn sefydlog yn Nghanaan a byw mewn tai, cafodd Duw ei dŷ hefyd—ei Deml sefydlog.

3. Yr oedd i fod yn deilwng o'r Jehofa Mawr.—Ty i'r Arglwydd oedd. Dyma yr unig ffordd y gallwn gyfrif am a chyfiawnhau y draul fawr yr awd iddo wrth godi y Tabernacl. Duw a dynodd y cynllun, yr hwn a roddwyd i Moses ar y Mynydd (pen. xxv). Duw, hefyd, a roddodd ddoethineb i Bezaleel a Ahaliab. Maentioli y Tabernacl a benderfynwyd gan Dduw. Yn annybynol ar y cyntedd allanol agored, nid oedd y Tabernacl ond bychan. Mae yr enwog Jahu yn ei roddi yn 45 troedfedd wrth 15, neu 675 o droedfeddi ysgwar. Bydd hyn yn llai o 1,005 troedfedd ysgwar nag yw Hall Calfaria, yr hon sydd yn 84 wrth 20 heb y gallery, ac 1,439 llai na'r Ynyslwyd. Yr oedd y bobl i gael y fraint o roddi yr holl ddefnyddiau; ac at y rhoddion hyn y bwriadwn alw eich sylw.

I. YR OEDD Y RHODDION YN AMRYWIOL IAWN.

Mae yr Arglwydd yn fanwl iawn yn nodi yr hyn fydd yn eisieu, ac yn gadael ar y mechanics a'r artisans i nodi allan swm o bob peth oedd yn ofynol i gario allan gynllun Duw. Dyma y gyfres (Ex. xxv. 1—8):—Aur, arian, pres, sidan glas, sidan porphor, sidan ysgarlad, llian main, blew geifr, crwyn hyrddod, crwyn daearfoch, coed sittim, olew, llysiau, maen onix, sardius, thophas, smaragdus, carbuncl, saphir,