Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/306

Gwirwyd y dudalen hon

wyd ef gan Phocas yn ben cyffredinol yr holl Eglwys ar y ddaear. Dyna gam tuag at godiad y corn bychan. Yn y flwyddyn 608 daeth Boniface IV. i'r gadair; ac yn y flwyddyn 610, darfu iddo ef yspeilio senedd a phobl Rhufain o'r Pantheon, a'i chyssegru i'r holl saint. Dyna y weithred orphenodd, i'm tyb I, roddi bodolaeth i'r corn bychan. Yr oedd ei ben erbyn hyn yn ddigon uchel i Daniel ei weled yn mhlith y deg corn ereill. Un bach oedd ef, ond yr oedd yn y golwg, a buan y daeth yn ddigon cryf i ddiwreiddio tri o'r deg cyrn mawrion ag oeddynt yn bodoli o'i flaen. Yn ystod y pum' mlynedd nesaf mae y corn bychan yn dyfod yn amlwg iawn. Yna, yr wyf yn mentro dywedyd, ni chyfododd y corn bychan cyn y flwyddyn 610, ac nid oedd ei ymddangosiad yn ddiweddarach na'r flwyddyn 615; ond credaf yn hollol ei fod i'w ganfod yn mherson a gweithred Boniface IV, yn y flwyddyn 610. Yna, os ychwanegwn 1,260 o flynyddau at 610, cawn y bydd ei gwymp fel corn, neu allu tymhorol a gwleidyddol, i gymmeryd lle yn y flwyddyn 1870. Dyna adeg cwymp (2) Yr y corn bychan, yn ol fel y deallaf y broffwydoliaeth, a hanes yr Eglwys Babaidd yn y 5ed, 6ed, a'r 7fed ganrif. achos o'i ddinystr. Achosir ei ddinystr gan ei eiriau cableddus ei hun (adnod 11). (3) Natur ei ddinystr. Bydd ei ddinystr yn llwyr a chyflawn (adnodau 11, 12). Mae dinystr y corn bychan yn arwyddo dinystr y bwystfil hefyd. Mae y galluoedd hyn wedi bod yn cydfyw-yn uno i erlid a lladd plant Jehofa; ond yma dangosir y bydd i honiadau a geiriau cabledd y corn bychan fod yn ddinystr iddo ef, ac hefyd i'r bwystfil o ben yr hwn y daeth ar y cyntaf.

II. Y fendith FAWR A DDAW I RAN EGLWYS DDUW AR GWYMP Y CORN.

Mae saint Duw, am gannoedd o flynyddoedd, wedi cael eu hyspeilio o'u hiawnderau. Mae y corn bychan wedi bod, ac yn awr yn erlid y saint, ac yn eistedd yn nheml Dduw; mae yr Eglwys wedi bod dan draed y bwysfil hwn am hir dymhor; ond daw y boreu i ben pan y ceir tro ar yr olwyn fawr, fe gwymp y corn, fe leddir y bwystfil, ac fe fydd i blant Duw gymmeryd eu safle priodol yn y byd. "Y freniniaeth a'r llywodraeth dan yr holl nefoedd a roddir i blant saint y Goruchaf." Ië, y saint fydd yn teyrnasu, plant Duw fydd a'r llywodraeth dan yr holl nefoedd."