Duw. Mae ei allu, ei ddoethineb, a'i ddaioni, i'w canfod yn mhob rhan o'r cread. Dyn bïa y Gair. Dyma sydd yn aros. Mae Gair Crist yn gadarn—
1. Yn ei dystiolaeth (1) am a fu, (2) y sydd, (3) ac am a fydd.
2. Yn ei rybuddion.
3. Yn ei addewidion.
Mae cadernid a dyogelwch yn perthyn i'r Gair. Mae y geiriau hyn—
1. Yn fawreddog—sublime: "Fy ngeiriau I." (Cymharer Gen. i. I â'r testyn.)
2. Yn wir—dim os yma.
3. Yn bwysig i'r annuwiol.
4. Yn llawn cysur i'r duwiol.
O! parchwn ei Air Ef. Amen.
JOSEPH.
Gen. xli. 39—45.
Mae cymmeriad Joseph wedi bod dan sylw genym o'r blaen, ond nis gallwn lanw y gadwyn o dduwiolion yr Hen Destament sydd genym yn awr dan ein sylw heb gael Joseph o flaen ein pobl ieuainc.
I. JOSEPH YN FACHGEN.
Mab hynaf Rahel, ond y plentyn ieuengaf ond un. Nodweddau dyddiau boreuol—
1. Parch i'w rieni. Mae hyn yn amlwg. Parhaodd hyd y diwedd.
2. Gonestrwydd. Dynoethodd fai y brodyr.
3. Gwrthddrych sylw Duw.
Mae Joseph yn esiampl dda i'n pobl ieuainc.
II. JOSEPH YN NHY PUTIPHAR.
Daeth yma drwy greulondeb ei frodyr.
1. Mae yn gaethwas.
2. Mae yn ffyddlon i'w feistr.
3. Mae yn ofni Duw.
III. JOSEPH YN Y CARCHAR.
1. Mae yn garcharor diniwed.
2. Carcharor yn ennill ymddiried.
3. Carcharor ag y mae Duw gydag ef.