iwyd cynnal cyfarfodydd gweddi yn y Fenni Fach, Llanddw, a'r ardaloedd cylchynol. Gyda hyn cododd rhyw ychydig awydd siarad yn y bechgyn, ond nid oedd drws agoredd iddynt. Yr hen dad parchus o Borthydwr, yn ddiau, yn ofni i'r ebolion efallai dori dros y terfynau, pe buasai yn rhyfeddod. Ond llonyddwyd tipyn ar yr anian hon yn Thomas Price yn mhen ychydig. Yr oedd efe yn awr yn codi, a bu yn athraw da a ffyddlon yn yr Ysgol Sabbothol. Yr adeg hono yr oedd dosparth i ddynion ieuainc yn cael ei ddwyn yn mlaen yn Kengsington, capel y Bedyddwyr Saesneg, gan y Mri. Jones y druggists, er diwyllio meddyliau a chynyddu gwybodaeth y bobl ieuainc yn y lle. Yr oeddynt hefyd i gael mantais i lefaru ar wahanol bynciau, a thrwy hyny ddangos eu doniau. Ymunodd y bechgyn ieuainc o Borthydwr â hon, ac yn eu plith daeth Price yn ymlynydd cysson a selog wrthi. Yn nghyfarfodydd y gymdeithasfa hon y dadblygodd Price gyntaf ei alluoedd i siarad yn gyhoeddus, yr hyn a'i gwasanaethodd ef a'r enwad Bedyddiedig mor effeithiol drwy ystod ei fywyd llwyddiannus. Myfyriai yn galed hefyd lenyddiaeth Feiblaidd a gweithiau llenyddol gwerthfawr ereill, a galluogodd ei dreiddgarwch a'i alluoedd naturiol digyffelyb ef i feistroli yn drylwyr ddyrus bynciau duwinyddol oeddynt yn aros yn dywyll i oleuadau llai. Nid oedd ei weinidog, modd bynag, yn rhoddi ond ychydig gefnogaeth ir myfyriwr ieuanc caled, oblegyd edrychai gyda drwgdybiaeth ar ei ymdrechion llenyddol cysson a di-ildio. Fel llawer o weinidogion y dyddiau hyny, tueddai i gredu nad oedd un llyfr yn werth i'w ddarllen a i fyfyrio ond y Beibl. Yr oedd Price i lefaru un noswaith yn y Gymdeithas Gristioncgol, a'r pwnc oedd Breniniaeth Crist. Aeth Thomas i fyny i'r pwlpud i siarad, fel y tybid, a chan fod y gair brenin yn ei bwnc, darllenodd yn destyn, Minau a osodais fy Mrenin ar Seion, fy mynydd sanctaidd." Eithr methodd ddweyd gair yn ychwaneg, yr oedd tywyllwch dudew wedi toi y cwbl, fel o'r braidd yr oedd yn gweled y ffordd i ddysgyn o'r areithfa. Dyna ddechreuad llefaru yn gyhoeddus Dr. Price, Aberdar, ond nid dyma ei ddiwedd. Er i Price dori lawr y tro hwn, etto ni ddigaloncdd; eithr ymdrechodd yn fwy egniol a phenderfynol, a bu yn llwyddiannus. Teimlai ddyddordeb mawr yn nghymdeithas y dynion ieuainc, a bu yn dra gweithgar ynddi cyhyd ag yr arosodd yn y dref.
Ymhyfrydai Price bob amser fyned i'r cyfarfodydd gweddi