PENNOD III.
EI FYNEDIAD I LUNDAIN AC YN OL.
Gorpheniad ei brentisiaeth—Anrheg gan ei feistr iddo– Ei onest— rwydd — Cerdded i Lundain— David Jones, Caerdydd—Ma— thetes—Cyrhaedd y Brifddinas—Dick Whittington—Cael gwaith Awydd ymberffeithio yn ei grefft—Ymuno à sefydliadau celf— yddydol — Mynychu llyfygelloedd—Darllenwr mawr Cymro pur—Ymaelodi yn Moorfields—Dechreu pregethu—Ei destyn cyntaf—Myned at y Saeson—Cael derbyniad i'r coleg—Gorchwyl diweddaf cyn myned i'r coleg—Talu yn rhanol am ei addysg—Ymhyfrydu adrodd helyntion ei fywyd—Y myfyrwyr yn ei dderbyn yn llawen.
AR derfyniad ei brentisiaeth, anrhegodd ei feistr ef â phum' punt, fel arwydd fechan o'i barch tuag ato, am ei ymdrechion egniol i ddysgu ei grefft, ei ffyddlondeb iddo, a'i ymddygiadau da a theilwng tra yn ei wasanaeth. A'r swm bychan hwn penderfynodd Price ddechreu yn y byd drosto ei hunan. Ni adawodd i'r glaswellt dyfu dan ei droed. Dododd ei benderfyniad ar waith, ac ni wnelai un lle y tro ond Llundain i'r llencyn Cymreig un ar hugain oed, modrwyog ei wallt, a gwridgoch ei wedd. Wedi prynu ychydig ddillad, y rhai, meddai Price pan yn adrodd yr amgylchiadau hyn ei hunan, oedd eu hangen arno; ac fel bachgen egwyddorol a gonest, wedi talu pob gofynion arno yn y dref, yr hyn a lyncodd y swm oll o fewn ychydig sylltau, efe a gyfeiriodd ei gamrau tua'r Brifddinas; a dywedir iddo gerdded bob cam o'r ffordd o Aberhonddu i Lundain, 160 milldir, a chyrhaeddodd mewn tri diwrnod. Gorfu arno, yn ddiau, alw yn sychedig wrth lawer drws, fel y diweddar David Jones, Caerdydd, wrth ddyfod o Sir Gaerfyddrin "bant i'r gweithiau," neu yr enwog Mathetes yn teithio bob cam o Gastell-Newydd-Emlyn i Ddowlais heb ddim ond hanner coron yn ei logell, pan yn ymadael ag ardal brydferth ei enedigaeth, am gwpanaid o ddwfr, ac eistedd efallai dan wylo mewn llawer clawdd i dynu ei esgid ag oedd yn dolurio ei droed. Ac yn aml pan fyddai ei feddwl yn cynllunio trefniadau ei fywyd