wedi cyrhaedd y ddinas fawr, byddai yr ychydig arian oedd yn ei logell wedi twymo gan wres ei law yn eu rhifo, eu trafod, a'u troi. O'r diwedd, pan mor flinedig, heb wybod pa fodd i roi un droed o flaen y llall, daeth dwndwr tragwyddol y modern Babylon i'w glustiau, ac mewn ychydig, yr oedd yn rhodio ar hyd pelmynt ei hystrydoedd. Bu y Dr. yn Cheltenham, Bath, a chylchoedd ffasiynol ereill, yn ymweled â hwynt gyda chylchdeithwyr (tourists), tra yn ngwasanaeth y Cliftons; ond dyma y cyflwyniad cyntaf i gyflawn lanw bywyd Seisnigaidd poblogaidd. Y fath deimladau cymmysglyd y rhaid fod yn ei feddiannu pan yn agoshau, fel Dick Whittington arall, at brif ddinas y Saeson; ond er yr holl bryderon dwys allai fod yn codi yn ei feddwl am ei ddyfodol, bu yn dra ffodus i gael gwaith yn union deg wedi ei chyrhaedd. Nid oedd ef, hyd yn hyn, ond yn baentiwr tai; ond rhagorai yn hyn ar y cyff- redin. Wedi cyrhaedd Llundain, teimlodd Thomas Price awydd i feistroli rhanau mwy celfyddydgar ei grefft, a threuliodd ei oriau hamddenol i gyrhaedd hyn. Cofrestrodd ei enw ar gyfres un o'r sefydliadau celfyddydol, a dysgyblodd ei alluoedd yno trwy fyfyrdod dwys. Yn yr amser hwn y dysgodd ei wersi cyntaf mewn grammadeg, hanesiaeth, araethyddiaeth, a phortreadu.
Arosodd Price yn Llundain am bedair blynedd yn ngwasanaeth Peto a Gazelle, ac yr oedd y cyfnod iddo ef yn un o gynnydd meddyliol a moesol. Yn fuan, daeth yn aelod o gymdeithas y dynion ieuainc yn y Red Lion Square, a mynychai y Mechanics' Institute yn y South Brampton Buildings, a sefydlwyd yn Plymouth Road gan yr athronydd naturiol enwog, Dr. Birbeck. Yr oedd llyfrgell ardderchog yn gyssylltiedig â'r sefydliad, o'r hon, yn nghyd ag ystafell y newyddiaduron, y gwnaethai Price ddefnydd mynych. Ymhyfrydai yn fawr hefyd mewn darllen a myfyrio Duwinyddiaeth Dwight. Pan fyddai ereill yn ceisio y gweithiau gwerthfawr hyn, cawsid hwy yn fynych yn nwylaw y myfyriwr ieuanc, Thomas Price. Er fod y paentiwr ieuanc o Frycheiniog yn awr wedi dyfod i feddiant o fanteision mawrion a chyfleusderau lluosog i gasglu gwybodaeth fuddiol, ac i ddysgu yr iaith Saesneg drwy droi yn mhlith ac ymgymmysgu â Saeson y brif ddinas; etto, ni ddarfu iddo ef gael ei drawsnewid yn dalp o Sais, fel llawer o blant Gwalia a aethant yno, ac ni chollodd ronyn o'i gydymdeimlad â'i wlad nac â'i gydwladwyr, megys y gwna