llawer. Wedi bod yn Llundain flynyddau, gallai seinio pob gair yn iaith fendigaid ei fam mor Gymroaidd a chroew a neb. Yr oedd ein gwron yn ormod o ddyn i annghofio ei hunan yn y cyfeiriad hwnw.
Ar ymadawiad Price o eglwys Porthydwr, Aberhonddu, ymunodd, trwy lythyr parchus o ollyngdod a gafodd, ar unwaith â'r eglwys Fedyddiedig fechan Gymreig yn Moorfields, ar yr hon y pryd hwnw yr oedd y Parch. D. R. Jones, diweddar America, yn weinidog. Tra yno yr oedd Price yn un o athrawon goreu yr Ysgol Sul. Yn fuan wedi ymaelodi yma, dadblygodd y paentiwr ieuanc awydd i bregethu, a chafodd gymhelliad gan y frawdoliaeth. Ei destyn cyntaf oedd, "Wele Oen Duw, yr Hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd," Ioan i. 29. Profodd ei anerchiad cyntaf yn dra derbyniol gan yr eglwys a'r gynnulleidfa. Cymmerodd hyn le tua'r flwyddyn 1838. Er y boddlonrwydd a roddodd y pregethwr ieuanc ar ei gychwyniad yn y gwaith pwysig o gyhoeddi Crist yn Geidwad, nid oedd y gefnogaeth a roddid iddo gan yr eglwys yn fawr iawn. Felly tueddwyd ef i ymuno â'r eglwys Seisnig yn Eagle Street; ond er ei fod wedi myned at y Saeson, yr oedd yn pregethu ac yn siarad yn gyhoeddus yn awr ac eilwaith wrth ei gydwladwyr mewn gwahanol barthau o'r ddinas. Yr oedd yn llwyddiannus iawn. Cydnabyddai pawb a’i hadwaenai fod iddo ddyfodol dysglaer; ac y mae bywyd defnyddiol a gwerthfawr y Dr. enwog wedi profi fod eu barnau a'u syniadau yr adeg hono yn gywir am dano. Ar gais taer yr eglwys (ac nid fel un yn neidio o'r clawdd i'r pwlpud ac heb ei alw), gadawodd ei grefft, ac ymgyssegrodd yn drwyadl i waith mawr y weinidogaeth. Wedi gwneyd apeliad rheolaidd yn y dull arferol, derbyniwyd ef yn fyfyriwr yn y flwyddyn 1842, yn Athrofa y Bedyddwyr yn Mhontypwl, lle y bu yn llwyddiannus am dair blynedd a hanner. Dr. Thomas oedd y llywydd yr amser hwnw, a'r Parch. George Thomas, A.C., yn gydathraw ag ef. Rhif y myfyrwyr yr adeg hono oedd 21. Derbyniwyd Price i'r coleg yn ol mynegiad y llywydd y flwyddyn hono o eglwys Eagle Street, Llundain, ar ei draul ei hun; ac fel y gwelir yn Hanes Athrofeydd Cymru, gan Rufus, yr oedd y draul hono yn £30 iddo.
Cyn myned i'r Coleg, treuliodd Price ychydig amser yn Aberhonddu, ac ardal ei enedigaeth, ac yn brawf o barch ei hen feistr ato a'i ymddiriedaeth ynddo, rhoddodd iddo y